Mwy o Newyddion
Pensiynau: Gallai Cymru gael ei tharo galetaf
Mae llefarydd Plaid Cymru ar waith a phensiynau Hywel Williams AS wedi rhybuddio y gallai Cymru gael ei tharo waethaf gan newidiadau arfaethedig llywodraeth y DG i’r drefn bensiynau.
Galwodd Mr Williams ar lywodraeth y DG i gynnal astudiaeth drylwyr ranbarthol a chenedlaethol o holl ardaloedd y DG er mwyn mesur effaith y newidiadau sylweddol.
Lleisiodd Mr Williams bryderon am yr effaith ar Gymru, gan ddweud fod gan Gymru, fel poblogaeth, lai o bobl ar incwm uchel ac mewn swyddi rheoli, sy’n golygu nad oes cymaint o allu i ddibynnu ar gynilion neu ail ffynhonnell incwm. Dadleuodd Mr Williams fod hyn yn dangos y byddai’r effaith ar bensiynwyr Cymreig “yn llymach”.
Cododd Mr Williams y pryderon hyn yn ystod ail ddarlleniad y Mesur pensiynau yn Nhŷ’r Cyffredin.
Meddai Mr Williams o Blaid Cymru: “Bydd yn rhaid i fwy na 5 miliwn o bobl ledled y DG aros yn hwy cyn cael pensiwn y wladwriaeth dan gynlluniau llywodraeth y DG.
“Mae’r newidiadau hyn yn digwydd yn rhy hwyr i’r bobl hyn. Fe wyddom fod effaith yn ôl rhyw a gwyddom fod effaith hefyd o ran dosbarth cymdeithasol.
“Ni fydd rheolwyr ac uwch-swyddogion yn cael eu taro mor galed gan y newidiadau hyn am y bydd ganddynt hwy ffynonellau eraill o incwm pensiwn. Fodd bynnag, bydd y rhai ar incwm isel, sy’n dibynnu ar Gredyd Pensiwn a heb gynilion na phensiwn preifat, yn cael eu taro galetaf. Y ffaith yw bod gennym fwy o’r rhain yng Nghymru na chyfartaledd y DG a llai o reolwyr ac uwch-swyddogion.
“Rwy’n bryderus iawn am y ffaith y bydd effaith yr oedi hwn mewn talu pensiynau’r wladwriaeth yn cael ei deimlo’n fwy yng Nghymru nac yn rhannau cyfoethocach y DG.
“Ni chafwyd unrhyw astudiaeth ranbarthol na chenedlaethol o effaith y newidiadau hyn, ond dywed synnwyr cyffredin y bydd yr effaith yn fwy llym yng Nghymru.
“Dyna pam y mae Plaid Cymru eisiau Pensiwn Byw go-iawn i bawb.”