Mwy o Newyddion
Llanrwst yn edrych ymlaen at ei sioe fawr flynyddol
Bydd cyfle am ddiwrnod o hwyl i’r teulu cyfan yn Sioe Wledig Llanrwst, prif ddigwyddiad amaethyddol Dyffryn Conwy, ddydd Sadwrn 20 Awst.
Bydd teithiau bws am ddim rhwng y dref a chae’r Sioe drwy’r dydd, diolch i haelioni Bysus Llew Jones, ac fe fydd perfformiad ar y cae gan y canwr gwlad adnabyddus Tudur Wyn yn rhoi diweddglo cyffrous i’r diwrnod.
Gyda mwy o ddosbarthiadau cŵn anwes eleni, y Sioe Beiciau Rhyfeddol yn ôl i ddiddanu’r dorf, mwy o Glybiau Ffermwyr Ifanc yn tynnu rhaff, a’r Treialon Ceffylau yn y prif gylch – bydd rhywbeth at ddant pawb yn Sioe Llanrwst.
“Wrth gwrs, y cystadlaethau gwartheg, defaid, ceffylau, ffwr a phlu, gardd a chrefftau yw prif weithgareddau’r Sioe bob blwyddyn,” esboniodd Cadeirydd Sioe Llanrwst, Geraint Roberts.
“Mae’r gefnogaeth rydan ni’n ei chael gan gystadleuwyr o un flwyddyn i’r llall yn brawf o safon y stoc, y cynnyrch a’r cystadleuwyr yn y Sioe, ac mae’r un peth yn wir am safon yr amrywiol feirniaid sy’n cynnig eu gwasanaethau yn Llanrwst.”
Mae’r ddau undeb amaethyddol yn noddwyr i ddwy gystadleuaeth arbennig yn y Sioe eleni.
Mae cystadleuaeth Dau ar Dennyn NFU Cymru yn agored i bob arddangoswr gwartheg sy’n cystadlu gyda gwartheg pur mewn tair sioe leol - Eglwysbach, Llanrwst a Cherrigydrudion.
Rhaid i wartheg gystadlu yn eu brid neu ddosbarthiadau unrhyw frid arall, gan gynnwys Gwartheg Duon Cymreig, Bridiau Cynhenid, Gwartheg Llaeth, Limousin, Simmental, Charolais neu Selers.
Gyda gwobrau o £300, £200 a £100 yn cael eu cynnig, mae’r Sioe yn ddiolchgar i ganghennau Llanrwst, Uwchaled, Ogwen a Nant Conwy o NFU Cymru am eu cefnogaeth.
Bydd cystadleuaeth Y Tri Hwrdd yn cael lle blaenllaw yn y tair sioe leol diolch i gefnogaeth Undeb Amaethwyr Cymru eleni.
Yn y gystadleuaeth sy’n agored i bob arddangoswr defaid sy’n ymgeisio gyda thri hwrdd yn sioeau Eglwysbach, Llanrwst a Cerrigydrudion, bydd rhaid i gystadleuwyr ymgeisio gyda phob un o’r tri hwrdd yn eu brid yn y gobaith o ennill y brif wobr o £100, gyda £50 i’r ail arddangoswr lwcus.
Un dyn nad yw’n ddieithr i’r Sioe yw’r Llywydd eleni, Meirion Jones, Llwyn Richard, Carmel ger Llanrwst.
Yn fwy adnabyddus fel Mic, mae wedi gweithio’n galed ar ran Sioe Llanrwst ers dros 50 mlynedd mewn amryfal swyddi gan gynnwys y Prif Stiward a’r Cadeirydd ac ef yw un o’r tîm prysur sy’n paratoi’r cae sioe yn flynyddol gyda’i ordd a’i forthwyl.
“Mae’n llawer gwell gen i weithio yn y cefndir, yn gwneud beth sydd angen ei wneud, na bod yn llygad y cyhoedd,” meddai’r dyn tawel 69 oed sydd y drydedd genhedlaeth o’i deulu i ffermio Llwyn Richard.
“Mae’n anrhydedd fawr, ac yn un dw i’n ei gwerthfawrogi’n fawr, ond dw i hefyd yn edrych ymlaen at ymuno efo’r tîm o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r digwyddiad a gweld hen ffrindiau ar ôl i mi draddodi fy araith fel llywydd – dw i’n siwr bydd fy nerfau yn rhacs tan hynny!” meddai â gwên ar ei wyneb.
Yn ôl Geraint Roberts, y Cadeirydd: “Mae ein llywydd eleni, Meirion Jones, yn un o heolion wyth y sioe. Mae’n aelod ffyddlon o bwyllgor y sioe ac mae wedi dal amryw o swyddi dros y blynyddoedd. Mae ei deyrngarwch a’i frwdfrydedd dros y sioe yn esiampl i ni i gyd. Mae’n cefnogi ei gymuned leol, yr iaith Gymraeg a phopeth amaethyddol. Mae’n fraint fawr cael anrhydeddu rhywun sy’n un ohonon ni.”
Mae giatiau’r Sioe yn agor am 9:00am gyda beirniadu’r cystadlaethau stoc a chynnyrch yn digwydd yn ystod y bore ac mae’r Sioe Beiciau Rhyfeddol yn cychwyn am 1:30 cyn arddangosfa Cŵn Hela Dyffryn Conwy am 2:00pm, beirniadu’r cŵn anwes am 2:30pm, yr orymdaith fawr am 3:00pm ac yna’r gystadleuaeth tynnu rhaff. Mae tâl mynediad i oedolion yn £6, plant £2.50, ac mae tocynnau teulu ar gael am £15 (2+2).
Llun: Mic Llwyd Richard