Mwy o Newyddion
Prifysgol Aber yn ymchwilio i fywyd Y Drenewydd
MAE Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn anfon tîm o ymchwilwyr i’r Drenewydd, Powys, i ddarganfod sut brofiad yw byw a gweithio yn y dref heddiw.
Mae’r Brifysgol yn cynnal prosiect ymchwil eang sy’n edrych ar y ffordd y mae newidiadau o ran technoleg, yr economi, a’r ffordd o fyw bresennol yn effeithio ar gymunedau gwledig ledled y byd.
Mae safleoedd allweddol a ddewiswyd ar gyfer yr astudiaeth yn cynnwys rhannau o Tsieina, Brasil, Awstralia, Canada, Liberia, Yr Eidal – a’r Drenewydd yng Nghanolbarth Cymru.
Dr Marc Welsh o Brifysgol Aberystwyth yw cyd-arweinydd y prosiect, ac mae e’n dweud bod Y Drenewydd wedi’i dewis am amryw o resymau.
Meddai: “Mae’r Drenewydd yn lle hynod o ddiddorol ac unigryw, sydd wedi’i integreiddio i rwydweithiau rhyngwladol o fasnach a diwylliant ers amser maith, a hynny trwy ffigyrau lleol adnabyddus fel Pryce Jones a Laura Ashley.
“Heddiw mae’r dref yn wynebu heriau yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer y dyfodol, mewn byd sy’n newid yn gyflym, yn arbennig gyda dyfodiad y ffordd osgoi hir-ddisgwyliedig.”
Mae’r arolwg yn rhan o brosiect ymchwil dwy flynedd penodol ar Y Drenewydd, dan ofal Dr Marc Welsh a Dr Laura Jones, sy’n archwilio beth sydd ei angen ar dref fach i oroesi a ffynnu mewn oes fyd-eang.
Bydd tîm o archwilwyr yn troedio strydoedd Y Drenewydd a Llanllwchaearn rhwng dydd Mercher, 24 Awst, a dydd Mercher, 7 Medi.
Dewiswyd mil o gartrefi ar hap i gymryd rhan yn yr arolwg. Bydd yr ymchwilwyr i’w gweld hefyd o amgylch canol y dref dros Ŵyl y Banc ac yn ystod yr Ŵyl Bwyd a Chymuned ar 3-4 Medi.
“Mae gwir angen help pobl Y Drenewydd arnon ni i’n helpu gyda’n hymchwil,” meddai Dr Welsh “ond yn bwysicach fyth, i roi eu barn ar fywyd yn Y Drenewydd a’r ffordd mae’n newid.
“Ry’n ni’n meddwl y bydd yr arolwg yn gwneud i bobl feddwl, ac yn hwyl hefyd gobeithio!”
Bydd y rhai sy’n cwblhau’r arolwg hefyd yn cael cyfle i ennill tocynnau i ddigwyddiad neu bryd o fwyd mewn bwyty lleol yn Y Drenewydd.
Llun: Adeilad Pryce Jones yn y Drenewydd