Mwy o Newyddion
Cyfleoedd digidol i bawb yng Ngwynedd
MAE prosiect uchelgeisiol ar waith i alluogi pawb yng Ngwynedd i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd y mae technoleg ddigidol a’r rhyngrwyd yn eu cynnig.
Partneriaeth yw Gwytnwch Digidol, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd gyda chymorth yr elusen Citizens Online, a’i nod yw sicrhau y bydd gwelliannau mewn band llydan yn annog gwell sgiliau cyfrifiadurol ymysg pob rhan o gymdeithas.
Mae’r bartneriaeth wedi cytuno ar raglen waith a fydd yn canolbwyntio ar ddwy flaenoriaeth allweddol:
- defnyddio cyfleoedd digidol i leihau tlodi yn y sir,
- gwella sgiliau digidol mewn cymunedau gwledig.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi Cyngor Gwynedd: “Mae cydberthynas glir rhwng tlodi a sgiliau digidol gwael, ac mae gwella’r sgiliau hynny’n rhan annatod o’n strategaeth i drechu tlodi.
“Mae Gwytnwch Digidol â rhan allweddol i’w chwarae yn hyn.
“Rydan ni’n benderfynol o arfogi pawb o’n pobl i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd y mae’r datblygiadau digidol diweddaraf yn eu cynnig.
“I’r rheini sydd allan o waith, mae’r rhyngrwyd yn ffordd hynod ddefnyddiol o chwilio am swyddi, ac mae’r gallu i ddefnyddio cyfrifiaduron yn dod yn hanfodol mewn mwy a mwy o swyddi.
“Rhagwelir bydd y newidiadau i fudd-daliadau drwy gyflwyno’r credyd cynhwysol yn effeithio nifer o bobl Gwynedd, bydd mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfais llechen ynghyd a sgiliau digidol yn hanfodol er mwyn cyflwyno ceisiadau ar gyfer credyd cynhwysol.
“Mae’r prosiect yn ymwneud hefyd â gwella sgiliau digidol mewn ardaloedd gwledig yn benodol.
“Yn ogystal â’r angen i gael band llydan cyflym ym mhob rhan o’r sir, mae’n bwysig hefyd bod cymunedau gwledig yn dysgu sut i wneud defnydd llawn o’r dechnoleg newydd.
“Un o’n hamcanion allweddol, er enghraifft, yw helpu aelodau hŷn cymunedau gwledig i fynd ar-lein.
“Mae angen inni eu hannog i weld pa mor syml ydi defnyddio pethau fel e-bost, a pha mor hawdd ydi cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a pherthnasau, boed nhw filltir neu ddwy i ffwrdd neu ar ochr arall y byd.”
Mae cryn her ddigidol yn wynebu Gwynedd, yn ôl adroddiad cychwynnol Gwytnwch Digidol sy’n amlinellu’r sefyllfa sydd ohoni.
Er bod y data diweddaraf gan Ofcom yn dangos gwelliannau amlwg yn y graddau y mae band llydan cyflym iawn ar gael yn sir, mae’n dal i fod yn isel mewn cymhariaeth ag ardaloedd eraill.
Mae dadansoddiad y bartneriaeth o boblogaeth Gwynedd yn awgrymu bod un aelwyd o bob tair mewn risg o amddifadedd digidol, gyda’r mwyafrif o’r rhain yn cael eu dosbarthu naill ai fel pobl hŷn neu’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell.
Mae’n dangos bod y nifer o gyfrifiaduron sydd ar gael i’r cyhoedd yn isel, gydag amcangyfrif o ddim ond un PC neu liniadur ar gael ar gyfer bob 200 o’r aelwydydd sydd mewn risg o amddifadedd digidol.
Golyga hyn y gall cyfrifiaduron fod ar gael am ychydig oriau’r wythnos yn unig, ac maent hefyd yn tueddu o fod mewn trefi a phentrefi mwy.
Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen am gynyddu’r ddarpariaeth hyfforddiant mewn llyfrgelloedd a swyddfeydd Canolfannau Byd Gwaith, yn ogystal â hyfforddiant i staff rheng flaen mewn sefydliadau allweddol sy’n brin o sgiliau digidol sylfaenol.
“Mae’n amlwg fod angen gwneud mwy o safbwynt hyfforddiant a’r ddarpariaeth o gyfrifiaduron sydd ar gael i’r cyhoedd,” ychwanegodd y Cynghorydd Williams-Davies.
“Rydan ni’n benderfynol o adeiladu ar waith rhagorol ein prosiect arloesol Gwynedd Ddigidol, ac mae manylion llawn o’r hyn sydd ar gael i’w gweld ar y wefan www.gwyneddddigidol.cymru.
“Mae’n rhestru’r cyrsiau a’r sesiynau sy’n cael eu cynnal ledled Gwynedd, yn ogystal â’r holl adeiladau cyhoeddus lle mae modd cael at y rhyngrwyd.
“Dw i’n falch fod gwelliannau wedi bod o ran y graddau y mae band llydan cyflym iawn ar gael yng Ngwynedd, a thra byddwn ni’n dal ati i bwyso am welliannau pellach, mae hi’r un mor bwysig fod pob rhan o gymdeithas yn gallu elwa ar y cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r datblygiadau cyffrous hyn.”