Mwy o Newyddion
Ymchwiliad i bysgod marw yn Llangefni
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i ddigwyddiad llygredd ar Afon Cefni, Llangefni, Ynys Môn, lle y cafodd mwy na 30 o bysgod eu lladd.
Ar hyn o bryd mae swyddogion CNC yn cymryd samplau dŵr er mwyn ceisio dod o hyd i ffynhonnell y llygredd ac yn casglu rhywfaint o’r pysgod marw er mwyn cynnal archwiliad post mortem.
Meddai Leon Williams, Swyddog Amgylchedd Gogledd Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru: “Un o’n prif swyddogaethau yw cynnal yr amgylchedd a’r economi leol a’u gwarchod rhag digwyddiadau fel llygredd.
“Mae ymchwiliadau i ffynhonnell y llygredd ar y gweill, ond mae’n ymddangos nad oes unrhyw niwed wedi dod i ran bywyd gwyllt o fath arall, ac mae’r dŵr i’w weld yn glir.
“Byddwn yn parhau i gadw golwg fanwl ar yr afon er mwyn gwneud yn siŵr na fydd yna unrhyw broblemau amgylcheddol pellach.
“Os gwelwch unrhyw lygredd, gallwch roi gwybod inni trwy ffonio ein llinell argyfwng 24 awr ar 0800 807060.”