Mwy o Newyddion
Leanne Wood - Mae ymosodiad ar yr iaith Gymraeg yn ymosodiad ar bobl Cymru gyfan
Mae’n fis Awst. Dyddiau’r cŵn yn wleidyddol.
Mae gwleidydd Torïaidd wedi ceisio gwthio’i ffordd i’r penawdau trwy honni iddo ddod o hyd i chwyn sydd wedi torri pob record.
Rydym hefyd wedi gweld yr ymosodiad blynyddol ar yr Eisteddfod a’r iaith Gymraeg - y pryfocio a’r trolio blynyddol, taflu bom i gynhyrfu’r “nashis” a’u digio a’u brifo yn ôl y drefn arferol. Ffasiwn hwyl.
Ac yn dipyn o adloniant pan nad oes dim arall yn digwydd.
Mae dau ddigwyddiad yn sefyll allan eleni. Crëwyd y cyntaf pan holodd rhyw newyddiadurwr gwestiwn i rywun heb fawr ddim profiad o’r cyfryngau pam nad oedd tîm pêl-droed Cymru yn cael ei hanrhydeddu yn yr Orsedd.
Byddai’r sawl fyddai’n fwy profiadol gyda’r cyfryngau wedi rhoi ateb nad arweiniodd mor syth i’r trap nag y gwnaeth yr Archdderwydd. Y ffeithiau yw bod enwebiadau i Orsedd y Beirdd yn digwydd ym mis Chwefror.
Gan roi heibio’r cwestiwn ai’r Orsedd yw’r ffordd iawn i anrhydeddu’r tîm ai peidio, roedd y terfyn amser wedi hen fynd heibio cyn pencampwriaethau Ewrop.
Ni fu unrhyw fath o sarhad, dim ond un a grëwyd gan y cyfryngau. Ond mae wedi gadael blas chwerw yng ngheg llawer, gan gredu fod yr Eisteddfod fel corff wedi methu neu wedi gwrthod anrhydeddu’r tîm am nad ydynt yn siarad Cymraeg.
Nid dyna’r gwir a digwyddiad wedi ei greu oedd y cwbl er mwyn cynhyrchu "dadl" a phenawdau.
Yr oedd yr AC Llafur Alun Davies yn llygad ei le yn condemnio hyn ar raglen radio’r BBC (Sunday Supplement, 7.8.26).
Er mai fy mhlaid i yn cael ei chysylltu amlaf â’r iaith Gymraeg - ac yn haeddiannol felly, oherwydd gwaith dygn a diflino ein haelodau yn ei hamddiffyn, ei gwarchod a’i hybu dros ddegawdau - mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru.
Mae pob plaid wleidyddol yn y Senedd yn hawlio bod ganddynt ymrwymiadau i ddiogelu ac ymestyn y defnydd o’r Gymraeg.
Dylai pob gwleidydd yng Nghymru fod yn barod i ddilyn esiampl Alun Davies yn beirniadu’r “ymosodiadau ar y Gymraeg o ran hwyl”.
Yn yr un modd ag y byddai unrhyw un blaengar yn condemnio hiliaeth neu rywiaeth neu homoffobia hyd yn oed pe na baent yn ddu neu’n fenyw neu’n hoyw, dylem oll fod yn barod i wrthod ymosodiadau ar yr iaith Gymraeg, os ydyn yn siarad yr iaith neu beidio.
Mae ymosodiad ar yr iaith Gymraeg yn ymosodiad ar bobl Cymru gyfan, ac ni ddylem ei oddef. Yn aml, all pobl o dramor ddim dirnad pam ein bod ni fel Cymry yn ei oddef.
Rwyf wedi dod ar draws niferoedd o bobl sydd wedi syfrdanu’n llwyr pan ddaw’r ymosodiadau hyn o’r tu mewn i’r wlad, yn enwedig pan fyddant yn cael eu harddel yn ein cyfryngau cenedlaethol.
Mae’r iaith Gymraeg mewn cyflwr bregus. Mae ffynonellau’r cyfryngau sy’n gwatwar neu’n trolio ar yr iaith Gymraeg fel hyn yn troedio tir peryglus.
Beth yw eu rheswm dros wneud? A na, nid yw’n groes i ryddid barn i ddadlau y dylent drin y cwestiwn mewn dull mwy sensitif a pharchus.
Dyna un o’r rhesymau pam yr holais BBC Radio 5 Live ar Twitter pan welais gyfres o drydariadau gan un o’u hymchwilwyr yn gofyn am bobl fyddai’n barod i fynd ar yr awyr i ddweud y dylai’r Gymraeg farw.
Mae hyn yn waeth pan ddaw gan ddarlledwr y wladwriaeth, yn fy marn i, yn enwedig pan ydym oll, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg, yn talu amdano.
Anfonais drydariad at yr orsaf i ofyn ar ba blaned yr oeddent yn tybio eu bod i feddwl nad oedd dim o’i le ar hyn?
Derbyniais ryw fath o ymddiheuriad, wedi ei eirio’n ofalus dros ben, ond heb roi mymryn o hyder i mi na fyddai’r math yma o beth yn digwydd yn y dyfodol.
Gall defnyddio’r iaith Gymraeg fel ffordd i gael ymateb gan bobl beri loes mawr i bobl sy’n clywed y pethau hyn.
Er efallai iddi ddod yn berffaith dderbyniol yn y cyfnod Brexit hwn mewn rhai mannau i fod yn agored hiliol, y rheswm pam y dyfeisiwyd iaith "wleidyddol gywir" i ddechrau oedd i helpu i amddiffyn pobl oedd yn gorfod dioddef datganiadau tramgwyddus oedd yn iselhau ac yn bwlio.
Yn hynny o beth, "cywirdeb gwleidyddol eithafol” yw un o’r ystrydebau gwleidyddol mwyaf niweidiol sy’n bod, am ei fod yn rhoi rhwydd hynt i bobl frifo ac i gasáu, oll yn enw rhyddid barn.
Yn awr yn fwy nac erioed yn fy mywyd, rwy’n gweld bod angen i fod yn fwy gofalus fyth ynghylch y math o iaith yr ydym yn dewis ei defnyddio, a’r modd yr ydym yn trafod y pynciau gwleidyddol mwyaf anodd a chynhennus.
Mae’n bryd nawr cael llai o ddicter, mwy o ofal a charedigrwydd gennym oll ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y byd go-iawn, a diwedd, os gwelwch yn dda, ar “drolio” gan y cyfryngau.