Mwy o Newyddion
Gadewch i Lwybr Arfordir Sir Benfro ysbrydoli eich antur yn Sioe’r Sir
Llwybr Arfordir Sir Benfro fydd y prif atyniad ym mhabell Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Sioe’r Sir eleni, (1-18 Awst), sy’n adrodd y stori ynglŷn â sut y cafodd y Llwybr Cenedlaethol hwn o safon fyd-eang ei greu, yn cynnwys y rhan ganolog a gymerwyd gan dractor Bristol o’r 1960au.
Ar gornel Rhodfa Main a Rhodfa Band, byddwch chi’n gweld pabell Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn llawn o weithgareddau rhad ac am ddim i blant a’r cyfle i ddod o hyd i gyfleoedd antur, yn ogystal â gweithgareddau sy’n gwarchod ac yn gwella’r Parc.
Dywedodd Mike James, cadeirydd y Parc Cenedlaethol: “Byddai’r Awdurdod eleni yn hoffi gwahodd pobl i ddod a darganfod mwy ynglŷn â’r stori ryfeddol y tu ôl i greu Llwybr yr Arfordir sy’n fyd-enwog ac sy’n cael ei reoli gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
“Yn ogystal â dysgu ynglŷn â chreu’r Llwybr Cenedlaethol 186 milltir o hyd, bydd pobl yn ogystal yn gallu darganfod mwy am yr holl waith sydd wedi cael ei wneud gan yr Awdurdod a’i bartneriaid i warchod y dirwedd hon o safon fyd-eang a’i gwneud yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt.”
Bydd y stondin yn ogystal yn gartref i danciau pyllau creigiau arbennig sy’n cynnwys amrediad ffantastig o fywyd gwyllt o ddyfroedd arfordirol Sir Benfro er mwyn eich ysbrydoli i’w hadnabod a’u darganfod eich hunain ar y traethau hardd ar hyd ein glannau.
Bob dydd bydd tocynnau mynediad dau am bris ar gael ar gyfer atyniadau ymwelwyr poblogaidd, Pentref Oes Haearn Castell Henllys a Chastell Caeriw a’r Felin Heli, yn ogystal â chyfle i ennill £50 drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd helfa drysor Wildlife Challenge o gwmpas stondinau Sioe’r Sir.
Bydd y Tîm Darganfod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn bresennol gyda grŵp o Barcmyn Ifanc, gyda gweithgaredd rhyngweithiol cyffrous sy’n dysgu am wastraff morol a’r niwed y gall plastig ei gael ar fywyd gwyllt.
Eleni, bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael cwmni Fforwm Arfordirol Sir Benfro, a fydd yn dangos detholiad bychan o’i brosiectau cydweithredol sydd wedi cael eu hanelu at ddefnydd cynaliadwy o’r arfordir. Derbyniodd y prosiectau Cod Morol Sir Benfro a’r Siarter Awyr Agored gydnabyddiaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2016, ac felly dewch i weld eu stondin i gael mwy o wybodaeth.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.pembrokeshirecoast.org.uk. Yn ogystal, gallwch weld Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar Trydar @PembsCoast neu Facebook ‘Pembrokeshire Coast’.