Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Awst 2016

Trysorau'r Babell Lên yn rhoi gwên wedi'r Eisteddfod

Roedd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn un go brysur i'r Prifardd Guto Dafydd o Bwllheli.

Nid yn unig enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Ymbelydredd, bu hefyd yn ymrysona, yn gwis-feistr ac yn cadeirio trafodaethau yn Y Babell Lên.

Bydd modd gwylio gwledd o lên bob nos Fawrth yn ystod mis Awst a Medi ar S4C wrth i'r gyfres Mwy o'r Babell Lên gychwyn nos Fawrth, 23 Awst.

Yn ystod y gyfres cawn glywed sgyrsiau diddan am lenyddiaeth, cerddoriaeth a hanes; ac wrth gwrs Ymryson y Beirdd, uchafbwynt y Babell Lên i sawl Eisteddfodwr.

Er bod darllediadau o'r Babell Lên wedi bod yn ystod wythnos yr Eisteddfod, dyma gyfle i weld uchafbwyntiau estynedig sydd heb eu darlledu ar y teledu hyd yn hyn.

Bu Guto Dafydd yn byw a bod yn y Babell Lên eleni; bu'n sgwrsio am ei nofel arobryn Ymbelydredd â'r Athro Gerwyn Williams ac yn arwain sesiynau difyr gyda 'rocars â gwalltiau cyrliog'.

Bu'n rhan o gyflwyniad i lansio'r gyfrol Deugain Barddas, ac yn cadw trefn ar ddau dîm o feirdd, a'u capteiniaid Gruffudd Antur a Llŷr Gwyn Lewis, mewn cwis newydd sbon '8 Allan o 10 Bardd'.

"Rhwng popeth, dwi'n meddwl 'mod i ar lwyfan y Babell Lên chwe gwaith!" chwardda Guto Dafydd sy'n wreiddiol o Drefor yng Ngwynedd.

"Dwi'n meddwl mai'r sesiwn wnes i 'i fwynhau fwyaf oedd '8 Allan o 10 Bardd'.

"Roedd yn gyfle i brofi gwybodaeth chwe bardd am lenyddiaeth Gymraeg, ond yn bwysicach, i ddiddanu cynulleidfa drwy orfodi'r panelwyr i gyflawni tasgau gwirion. Roedd 'na ddigon o chwerthin a chanu!

"Roedd hi hefyd yn braf cael bod yn rhan o drafodaethau dwfn ond diddorol ar lenydda - roedd trafod fy ngwaith fy hun dipyn yn llai heriol na chadeirio trafodaethau," meddai Guto, enillodd y Goron yn Eisteddfod Sir Gâr, ddwy flynedd yn ôl.

"Uchafbwynt arall oedd y sesiwn 'Chwarter i Chwech' gydag Yws Gwynedd, Iwan Huws a Twm Morys.

"Maen nhw'n feirdd ac yn gantorion dwi'n eu hedmygu'n fawr, felly roedd dod â'r tri at ei gilydd am sgwrs a chân yn fraint."

Yn Mwy o'r Babell Lên bydd digon o ddanteithion llengar gan S4C i godi gwên yn ystod Awst, wrth i ni oll hiraethu am yr Eisteddfod. Bydd Yr Athro Peredur Lynch yn dewis a dethol y cerddi gorau a'r rhai salaf i ennill Coron yr Eisteddfod yn ystod y can mlynedd a hanner diwethaf, a bydd Menna Elfyn yn trafod y cymeriad dadleuol a lliwgar, Eluned Phillips.

Bydd dwy sesiwn yng nghwmni Lisa Gwilym hefyd; un yn holi Heather Jones a Dewi Pws ynghylch operâu roc, a'r llall yn sgwrsio â Gwenno Saunders a Robin Llwyd ab Owain am 'Y Dydd Olaf'.

Mae Guto yn teimlo bod Mwy o'r Babell Lên yn rhoi cyfle iddo wylio'r hyn na chafodd gyfle i'w weld yn yr Eisteddfod.

"Mae'r Eisteddfod wedi datblygu'n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf - mae 'na wir deimlad o ŵyl iddi erbyn hyn, ac mae'r maes yn orlawn o bethau diddorol i'w gwneud.

"Mae'n amhosib i un person weld yr holl sesiynau difyr sy'n digwydd - nid yn unig yn y Babell Lên ond yn y Lolfa Lên, Pebyll y Cymdeithasau, y Tŷ Gwerin a'r Pentref Drama.

"Dwi'n teimlo fy mod i'n colli trysorau am fod y 'Steddfod mor brysur.

"Felly mi fyddwn i'n hoffi gweld yr holl sesiynau'n cael eu ffilmio a'u darlledu - naill ai ar y teledu neu ar y we."

Mwy o'r Babell Lên

Nos Fawrth 23 Awst 10.00, S4C.

Hefyd, dydd Iau 25 Awst 3.00, S4C

Hefyd ar-lein ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill           

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C 

Rhannu |