Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Awst 2016

Gorchymyn cymunedol am ddarparu dillad pêl-droed ffug

Mae dyn o Runcorn a oedd yn gwerthu dillad pêl-droed ffug o’i gartref gwyliau yng Nghaeathro wedi ei orchymyn i wisgo dyfais tagio am y bedair mis nesaf.

Mewn achos a gyflwynwyd gan dîm Safonau Masnach Cyngor Gwynedd yn erbyn Michael Spencer o 20 Betchworth Crescent, Runcorn, cafodd ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caernarfon ar 8 Awst.

Derbyniodd y dyn 45 mlwydd oed orchymyn cymunedol a bydd rhaid iddo wisgo dyfais tagio ac aros yn ei gartref yn Runcorn rhwng 7am a 7pm am y pedwar mis nesaf.

Cafodd orchymyn hefyd i dalu costau cyfreithiol y cyngor sef, £1,222.88 a gordaliad dioddefwr o £60.

Gorchmynodd yr ynadon ei fod hefyd yn arwyddo gorchymyn fforffedu wedi iddo bledio’n euog i chwe chyhuddiad o ddarparu citiau pêl-droed ffug a oedd yn groes i Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 a’r Ddeddf Nodau Masnach 1994.

Yn dilyn derbyn gwybodaeth fod Mr Spencer yn gwerthu nifer fawr o ddillad pêl-droed o’i gartref gwyliau yng Nghaeathro trwy ei dudalen Facebook, fe wnaeth Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd gynnal ymgyrch gudd, lle y darparodd grys pêl-droed ffug Lerpwl i swyddog gorfodaaeth cudd.

Fe amlygodd ddadansoddiad gan y gwir ddeiliad nod masnach fod y dilledyn yn ffug ac mewn ymgyrch ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru fe atafaelwyd 261 o gitiau pêl-droed ffug New Balance, Nike ac Adidas gyda gwerth stryd amcangyfrif o £15,000.

Nododd Mr Spencer ateb ‘dim sylw’ fel ateb i’r holl gwesitynau a roddwyd iddo, gan gynnwys wrthod i ddweud lle y cafodd y dillad.   

Dywedodd John Eden Jones o Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd: “Mae gwerthiant a darparu dillad ffug yn cael ei weld yn aml fel trosedd heb ddioddefwyr.

"Serch hyn mae ansawdd dillad ffug yn israddol ac yn aml nid ydynt yn cydfynd â rheolau tan.

“Fel Cyngor, mae gennym gyfrifoldeb nid yn unig i warchod diogelwch trigolion, ond hefyd y  busnesau lleol sy’n gwerthu’r nwyddau yn gyfreithlon.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Safonau Masnach: “Mae taclo cyflenwad holl gynnyrch ffug, boed yn ddillad, tobacco, neu offer trydanol, yn un o brif flaenoriaethau Gwasanaeth Safonau Masnach yng Ngwynedd.

"Dylai’r achos hwn fod yn rhybudd i rheini sy’n ymwneud â darparu dillad anghyfreithlon dros Facebook a gwefannau cymdeithasol eraill gan y bydd camau priodol yn cael eu cymryd yn erbyn troseddwyr.”

Os oes gan unrhyw un fwy o wybodaeth sy’n ymwneud â gwerthiant nwyddau anghyfreithlon, gallwch adrodd am y mater i dîm Safonau Masnach Cyngor Gwynedd ar 01766 771000 neu drwy ebostio: safmas@gwynedd.llyw.cymru

LLUN: Rhywfaint o’r dillad pêl-droed ffug

Rhannu |