Mwy o Newyddion
HSBC dan y lach am ddi-ystyru anghenion cymunedau gwledig
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi cyhuddo HSBC o ddi-ystyru anghenion penodol cymunedau gwledig wrth i’r banc gadarnhau yr wythnos yma na fyddant yn ail-ystyried cynlluniau i gau canghennau Blaenau Ffestiniog, Bermo a Thywyn.
Yn gynharach yn yr wythnos cyfarfu Liz Saville Roberts AS a Cynghorwyr o Bermo, Tywyn a Blaenau Ffestiniog gyda chynrychiolwyr o HSBC er mwyn dadlau’r achos dros gadw’r canghennau yn agored ynghyd â chyflwyno deiseb wedi ei harwyddo gan dros wyth gant o bobl yn gwrthwynebu cynlluniau HSBC i dorri’r gwasanaethau.
Er gwaethaf gwrthwynebiadau chwyrn ac ymgyrch yr AS lleol, mae HSBC wedi cadarnhau nad ydynt am ail-ystyried eu penderfyniad i gau’r canghennau ym Meirionnydd.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Rwy’n hynod siomedig fod HSBC yn benderfynol o fwrw ymlaen a chau tair cangen o’r banc yn fy etholaeth, a hynny yng ngwyneb gwrthwynebiad chwyrn gan arweinwyr cymunedol, busnesau a phobl lleol.
“Nid oedd eu hymgynghoriad yn ddim byd o’r fath. Dylai’r banc fod wedi rhoi gwybod i’r cymunedau fod cau canghennau ar y gweill yn hytrach na chael eu cyflwyno â penderfyniad masnachol ar sail yr hyn sy’n ymddangos fel elwa buddiannau pell.
“Wrth gael gwared â’r gwasanaethau cymunedol pwysig yma, yr hyn y mae’r banc yn ei wneud yw dod i benderfyniad ar sail eu ffigyrau ei hunain a bwrw mlaen a gweithredu arnynt. Mae’r cymunedau dan sylw wedi eu di-arddel o’r holl broses.
"Mae'r banc yn awr yn ystyried cadw ATMs yn y tair cymuned yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn a byddaf yn pwyso arnynt i wneud hynny.
“Dyma esiampl arall o ganoli gwasanaethau ac enghraifft arall o gymunedau gwledig ledled Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaeth bancio digonol tra bod pobl yn colli’r cyfle i fancio â pobl maent yn eu hadnabod ac ymddiried ynddynt.”
Llun: Liz Saville Roberts AS gyda ymgyrchwyr lleol tu allan i fanc HSBC Blaenau Ffestiniog