Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Awst 2016

Dal tri dyn yn pysgota’n anghyfreithlon yn ystod y nos

Cafodd tri dyn eu dal ar amheuaeth o bysgota’n anghyfreithlon ar Aber Mawddach yn Abermo, Gwynedd yn ystod patrôl nos gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Heddlu Gogledd Cymru.

Cymerwyd rhwyd ddrysu 60 troedfedd, a daethpwyd o hyd i dair o rwydi tebyg yng ngherbyd un o’r dynion.

Meddai Matt Roberts, Arweinydd Tîm Troseddau Amgylcheddol y Gogledd yn Cyfoeth Naturiol Cymru: “Un o’n swyddogaethau pwysicaf yw gwarchod a chynnal ein hamgylchedd a’r economi leol.

“Mae rheolau a chyfreithiau ar waith er mwyn gwarchod rhywogaethau sy’n rhan bwysig o amgylchedd ac economi’r ardal hon.

“Gall troseddau fel y rhain effeithio ar y poblogaethau am flynyddoedd i ddod ac effeithio ar y diwydiant pysgota, sy’n werth £150 miliwn i economi Cymru.

“Am 21:50 nos Lun 8 Awst, yn ystod patrôl arferol, fe wnaethon ni ddal tri dyn gyda nifer o rwydi drysu mawr yn eu meddiant ar Aber Mawddach.

“Mae’r tri wedi’u cyfweld ac wedi’u riportio am gyflawni Troseddau Pysgodfeydd, ac mae ymchwiliadau pellach ar y gweill.

“Pe bai unrhyw un arall yn gweld pysgota anghyfreithlon neu rywbeth amheus, dylent ffonio llinell argyfwng CNC ar 0800 807060.”

Rhannu |