Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn croesawu adroddiad IFS yn pwysleisio pwysigrwydd aelodaeth marchnad sengl
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, heddiw wedi croesawu adroddiad newydd gan y Sefydliad dros Astudiaethau Cyllidol (IFS) yn amlygu pwysigrwydd parhad aelodaeth o'r farchnad sengl Ewropeaidd i economi'r DG.
Dywedodd Mr Edwards, sydd wedi dadlau dros i Gymru barhau'n aelod o'r farchnad sengl ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, fod yn rhaid i Lywodraethau Cymru a'r DG amlinellu'r camau y maent yn bwriadu ei cymryd i warchod yr economi rhag sgil-effeithiau gwaethaf Brexit.
Meddai: "Mae Plaid Cymru'n croesawu'r adroddiad pwysig hwn sy'n pwysleisio pwysigrwydd aelodaeth o'r farchnad sengl i economi'r Deyrnas Gyfunol.
"Mae'r achos economaidd yn glir. Fel yr wyf wedi dadlau ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw mynediad i'r farchnad sengl yn ddigon - rhaid cael aelodaeth llawn os yw Cymru a'r DG ehangach am gynnal y perthnasau masnach maent yn elwa ohonynt ar hyn o bryd ledled y cyfandir.
"Heb os, mae sialensiau ynghlwm â'r opsiwn hon, ond gyda'r IFS yn amcangyfrif y gall aelodaeth o'r Farchnad Sengl fod yn werth hyd at 4% o GDP o gymharu ar ddibynu ar delerau'r Mudiad Masnach Rhyngwladol, mae'n drywydd sy'n rhaid ei olrhain.
"Mae ansicrwydd yn wenwynig i'r economi - rwy'n annog llywodraethau Cymru a'r DG i weithredu'n gyflym i'w gwneud hi'n gwbl glir mai statws marchnad sengl llawn yw'r opsiwn orau a'r flaenoriaeth."