Mwy o Newyddion
Gwartheg celf yn godro sylw diolch i gwmni trelars enwog
MAE cwmni wedi estyn carn i helpu trefnwyr digwyddiad celf gyhoeddus mwyaf y byd – gan ddarparu cludiant ar gyfer gyr o gerfluniau gwartheg maint llawn.
Roedd Ifor Williams Trailers yn falch iawn o gamu i’r adwy i helpu CowParade Surrey a sicrhau y byddai heffrod gwydr ffibr mwyaf trawiadol y byd yn cael eu trosglwyddo i’w porfeydd newydd – yng nghefn un o’u trelars.
Mae dros 60 o wartheg maint llawn, wedi eu haddurno’n unigryw yn cael eu harddangos ledled Surrey tan ddiwedd mis Awst.
Byddant yn cael eu gwerthu wedyn mewn arwerthiant yn yr hydref i godi arian ar gyfer amrywiaeth o elusennau a Chronfa Ymddiriedolaeth Bryniau Surrey, sydd mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Surrey yn helpu i gadw a diogelu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Surrey.
Roedd Andrew Reece-Jones, Rheolwr Peirianneg Dylunio yn Ifor Williams Trailers, wrth ei fodd i glywed am y bartneriaeth.
Dywedodd: “Mae ein hystod o drelars da byw yn amlwg wedi eu cynllunio’n bwrpasol ar gyfer anifeiliaid cig a gwaed, ond maent yn gwneud y gwaith yr un mor dda ar gyfer y gwartheg gwydr ffibr!”
Mae’r dosbarthwr Universal Trailers yn Billingshurst, Gorllewin Sussex wedi mwynhau perthynas hir a ffrwythlon gyda phrif drefnydd CowParade Surrey sef Tim Metson, ffermwr o’r drydedd genhedlaeth o amaethwyr, sy’n gyfarwyddwr o Surrey Hills Enterprises, y Cwmni Budd Cymunedol sy’n gyfrifol am gyflenwi CowParade Surrey.
Roedd busnes amaethyddol ei deulu, Fferm Coverwood yn Peaslake, sydd wedi ei leoli yng nghanol Bryniau Surrey, yn un o gwsmeriaid cyntaf y cwmni trelars pan agorodd yn 1982 ac mae Tim yn dal i brynu offer ffermio gan y busnes hyd heddiw.
Roedd y cwmni trelar yn barod iawn i ganiatau defnyddio un o drelars da byw mwyaf Ifor Williams Trailers, sef y TA510 14 troedfedd o hyd, 7 troedfedd o uchder, wrth i’r gwartheg gael eu symud i’w lle o amgylch y sir dros yr wythnosau nesaf.
Wrth i’r gyr o wartheg celf dyfu, ac wrth iddynt orfod gwneud sawl ‘ymddangosiad arbennig’, mae’r cwmni hefyd wedi cynnig trelars gwastad ychwanegol i hwyluso pethau.
“Mae wedi bod yn un o’r prosiectau mwyaf anarferol i ni fod yn gysylltiedig ag ef, ond yn sicr mae yna dipyn o sôn a siarad amdano, gyda chwsmeriaid yn sylwi ar y gwartheg wedi eu paentio’n drawiadol mewn gwahanol leoliadau ar draws Surrey, a phan maen nhw’n cael eu symud ar y trelars gwastad hwnt ac yma,” meddai perchennog Universal Trailers Mark Betts, 55 oed, o Coneyhurst.
“Wnaethon ni ddim meddwl ddwywaith am gymryd rhan ac roeddem yn hapus i fod yn gyflenwr trelars swyddogol.
“O’m rhan i, mae gan y prosiect ongl bersonol iawn gan mai tad Tim oedd un o’n cwsmeriaid cyntaf nôl yn 1982 pan ddechreuodd y busnes, ac mae’r teulu wedi parhau i fod yn gwsmeriaid rheolaidd ers hynny, felly mae’n ffordd dda o gydnabod hyn a dangos ein gwerthfawrogiad am eu teyrngarwch.
“Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.
“Yn ystod adegau prysur pan fydd y gyr o wartheg wedi ei wasgaru ar draws gwahanol leoliadau, neu pan fydd nifer fawr o wartheg yn mynd i un digwyddiad, mae Tim wedi galw am gymorth wrth gefn ac rydym wedi darparu gwahanol drelars gwastad i’w helpu ac wrth i’r gyr gwydr ffeibr dyfu rydym am wneud yn siŵr y gallwn ni ofalu am ei anghenion.”
Mae’r heffrod lliwgar eisoes yn godro sylw, gan roi gwên ar wynebau twristiaid yn Llundain pan dynnwyd eu lluniau tu allan i Senedd San Steffan.
Yn ogystal â chyfarfod ag ASau Surrey, maent hefyd wedi gwneud ymddangosiad arbennig yn Sioe Sirol Surrey gan roi blas i ymwelwyr o’r hyn sydd i ddod yn y brif arddangosfa.
Mae’r gwartheg wedi cael eu noddi gan gwmnïau, unigolion ac ysgolion ac maent yn cael eu haddurno yn unigol neu gyda help artist proffesiynol.
Byddant yn cael eu harddangos o amgylch Surrey tan ddiwedd mis Awst pryd y byddant wedyn yn cael eu gyrru nôl i Bencadlys CowParade Bryniau Surrey, sef fferm deuluol Tim.
Gŵyl Cerdd, Bwyd a Diod gyntaf Bryniau Surrey yn Fferm Coverwood ar 3 Medi fydd y cyfle olaf i weld y gwartheg cyn iddynt gael eu gwerthu yn yr arwerthiant er mwyn codi arian i elusennau.
Bydd pob busnes sydd wedi noddi buwch yn gallu dewis eu helusen eu hunain i elwa ar hanner yr arian o’r arwerthiant, tra bydd y 50 y cant sy’n weddill yn mynd i Gronfa Ymddiriedolaeth Bryniau Surrey.
“Mae’r gefnogaeth a gawsom gan fusnesau fel Universal Trailers wedi bod yn wych,” meddai Tim, sy’n byw gyda’i wraig a’i dri o blant ar fferm y teulu.
“Fel arweinydd CowParade, fy syniad i oedd dod â’r prosiect unigryw hwn i Surrey a rhan fawr o fy ngwaith yw cludo’r gwartheg, nid yn unig o amgylch Surrey, ond hefyd ymhellach i ffwrdd at artistiaid a noddwyr.
“Mae’r ffaith bod fflyd o gerbydau CowParade Surrey mor ddibynadwy a gwydn wedi bod yn hanfodol ac mae brand Ifor Williams Trailers yn un rydym wedi ymddiried ynddo ar ein fferm deuluol am dros 30 mlynedd.
“Mae enwau Ifor Williams Trailers ac Universal Trailers yn gyfystyr â chyflenwi trelars addas at ddefnydd amaethyddol a masnachol, ac rydym mor ddiolchgar eu bod yn gysylltiedig â CowParade Surrey.”
Sefydlwyd Cronfa Ymddiriedolaeth Bryniau Surrey mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Surrey i ddiogelu dyfodol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Surrey.
Nod y Gronfa yw cadw a chynnal amgylchedd bregus yr ardal drwy gyfrwng rhaglen o brosiectau cadwraeth tirwedd a chynlluniau menter cymunedol.
Ychwanegodd Tim: “Bydd CowParade Surrey yn helpu i hyrwyddo’r sir yn ei chyfanrwydd, ardal sy’n aml yn cael ei hanwybyddu fel tirwedd, ond mewn gwirionedd hon yw sir fwyaf coediog y wlad gyda chymuned ffermio ffyniannus.
“Gan fy mod yn ffermwr fy hun, roeddwn i’n meddwl y byddai dod â digwyddiad celf maint llawn i’r sir yn ffordd wych o ymgysylltu â’r gymuned ac mae gwartheg yn symbol amlwg a chryf o ffermio.
“Mae CowParade yn ffenomenon byd-eang ac roedd yn ymddangos fel y ffordd fwyaf addas i ni roi Surrey ar y map.”
Bydd y gwartheg yn ymddangos yn raddol ar hyd a lled Surrey o fis Mehefin tan ddiwedd mis Awst.
Mae app a gynlluniwyd yn arbennig y gellir ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim yn caniatáu i’r cyhoedd ‘gofnodi’ pob buwch y maent yn dod ar ei thraws.
Mae ymwelwyr hefyd yn gallu darganfod ffeithiau am bob buwch, ennill rhosedau, cymryd rhan mewn cwisiau a mwy.
Bydd aelodau’r cyhoedd sy’n dod o hyd i’r nifer mwyaf o wartheg yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth tynnu enwau o het i ennill gwyliau Kuoni moethus i ddau o bobl ym Mauritius.
• Am fwy o wybodaeth ynghylch CowParade ac i lawrlwytho’r app ewch i www.cowparadesurreyhills.com
Llun: Prif drefnydd CowParade Surrey, Tim Metson, gyda Mark Betts (yn y crys glas tywyll) o Universal Trailers, Billingshurst