Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Awst 2016

Datgelu’r artistiaid yng ngŵyl canwyr-gyfansoddwyr gyntaf Prydain

MAE gŵyl canwyr-gyfansoddwyr gyntaf Prydain yn cael ei chynnal fis nesaf yng Ngogledd Cymru.

Mae Gŵyl Gorjys Secret yn Nyffryn Conwy ar 17 Medi yn cael ei threfnu gan gwmni digwyddiadau newydd a sefydlwyd gan bedwar partner sy’n gobeithio rhoi hwb i’r economi leol.

Yn eu plith mae’r drymiwr a’r canwr proffesiynol Gavin Mart, y mae ei hanes cerddorol yn cynnwys agor ar gyfer pobl fel y Fonesig Shirley Bassey a Motorhead.

Mi wnaeth Gavin berfformio hefyd gyda Corinne Bailey-Rae a llu o enwau roc blaenllaw ledled y byd a thra oedd wrthi ef hefyd wnaeth ddarganfod Bob Hall,  drymiwr Catfish and the Bottlemen.

Y canwr gwerin a’r chwaraewr ffidil Seth Lakeman, a enwebwyd am Wobr Mercury, fydd yn serennu yn y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar dir ysblennydd Gwesty Neuadd Caer Rhun, ac mae’r tocynnau ar werth yn awr.

Hefyd yn perfformio yn yr ŵyl fydd Marcus Bonfanti, y gitarydd blues nodedig sydd wedi chwarae gyda Robert Cray a Chuck Berry, y cyn aelod o Squeeze a’r gitarydd gwerin Nick Harper, pencapwr bît bocsio’r byd Bellatrix, y lleisydd blues Katey Brooks, y pedwarawd o Dde Cymru Climbing Trees, y cyn-fysgiwr o Seattle Tom Butler a’r ddeuawd We Were Strangers o Fanceinion.

Mae’r perfformwyr o ogledd Cymru fydd yn ymddangos yn cynnwys y digrifwr Tudur Owen, y gitarydd acwstig Paul Bodwyn Green, a Sera y gantores o Gaernarfon sydd wedi perfformio gyda Mumford and Sons, tra bydd yna hefyd sesiynau “Yn cyflwyno…” ar gyfer artistiaid newydd.

Mae Gavin, a enillodd Wobr Digwyddiadau y DU yn ddiweddar ar gyfer Positive Impact, hefyd wedi cyd-sefydlu cwmni digwyddiadau Gorjys gyda phartneriaid busnes lleol Anna Openshaw, Tansy Rogerson a Jonathan Hughes, ynghyd â bar a lleoliad 3RDSPACE, menter gymdeithasol ym Mragdy’r Gogarth, Builder Street, Llandudno.

Bydd Gavin ei hun hefyd yn perfformio yn yr ŵyl, sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Go North Wales, Syrffio Eryri, Zip World a Chelfyddydau Engedi.

Dywedodd Gavin: “Fel partneriaid mae’r pedwar ohonom yn cymryd rhan flaenllaw ac rydym yn ymrwymedig iawn i wneud i’r ŵyl fod yn achlysur go arbennig.

“Mae hwn yn ddathliad gwirioneddol o ganwyr-gyfansoddwyr, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y bobl sy’n ymddangos.

“Roeddem yn awyddus i arddangos artistiaid sy’n mynd ar daith, yn hytrach na bandiau arena mawr.

“Mae’n golygu bod yr artistiaid yn dod o gefndir cerddorol amrywiol iawn, felly mae yma rywbeth ar gyfer pawb.

“Mae hon yn ŵyl i bawb, teuluoedd, ffrindiau, ac mae’n addas i bob oed – roeddem am greu rhywbeth a fyddai’n rhoi hwb i’r economi yn yr ardal hon, a dyna’n union rydym yn ei wneud.

“Bydd yna gynhyrchwyr bwyd lleol, gyda chwrw crefft wrth gwrs, yn ogystal â stondinau arddangos crefftwyr.

“Hefyd rydym am iddo fod yn ddigwyddiad rhwydweithio busnes, lle gall pobl ymlacio a chyfarfod ag eraill, o ystod eang o gefndiroedd, y gallant weithio gyda hwynt yn y dyfodol.

“Mae’r lleoliad yn Neuadd Caer Rhun yn wych, gyda’r coed a’r lawntiau teras hyfryd.

“Mewn gwirionedd dyna le cawsom yr ysbrydoliaeth dros enw’r ŵyl: oherwydd wrth edrych o gwmpas mi wnaethon ni sylweddoli ei fod yn lle hyfryd, cudd.

“Felly bydd gennym le ar dir Caer Rhun ar gyfer y llwyfan, gyda chae gwersylla ar gyfer cynulleidfa posib o ryw 2,000, tra bydd Neuadd Rhun Caer ei hun, ar gael ar gyfer pecynnau llety a lletygarwch VIP.”

Ychwanegodd Gavin, sydd wedi bod yn ymwneud â Greenbelt, gŵyl hynaf y DU, ers blynyddoedd lawer: “Rwyf wedi bod yn y diwydiant cerddoriaeth ers 20 mlynedd bellach, ac felly mae’r ŵyl hon hefyd yn dathlu fy nau ddegawd yn perfformio a threfnu digwyddiadau cerddorol a chelfyddydol amgen.”

Cafodd ei fagu yng Nghyffordd Llandudno, gan i’w dad wasanaethu fel deon gwlad yn Nyffryn Conwy am 20 mlynedd.

Hyfforddodd fel drymiwr ar ôl astudio yng Ngholeg Dewi Sant, cyn creu gyrfa i’w hun fel chwaraewr sesiwn yn Llundain a thu hwnt.

Aeth Gavin ymlaen i ymuno â Dare, y band roc a sefydlwyd gan gyn-chwaraewr allweddellau Thin Lizzy Darren Wharton, a fu’n sbardun hefyd ar gyfer gyrfa gyntaf y gwyddonydd a’r cyflwynydd teledu enwog yr Athro Brian Cox.

“Ymunais rywbryd ar ôl i Brian adael a mynd ymlaen i D:Ream, ac mewn gwirionedd roedd aelodau Dare i gyd yn llawer hŷn na fi,” datgelodd Gavin, sydd bellach yn byw yn Llandudno gyda’i wraig a’i blant. Gyda Dare roeddem yn chwarae gyda llawer o enwau mawr, fel y Fonesig Shirley Bassey, Motorhead ac arweinydd Iron Maiden Paul Di ‘Anno ac ar draws Asia ac Ewrop.

“Fodd bynnag, tra bod y potensial i wneud bywoliaeth dda yn chwarae gigs roc a bod yn gerddor proffesiynol yn Ewrop, does yna ddim is-ddiwylliant cerddorol tebyg yn y DU.

“Mae’n golygu teithio’n gyson, a bod allan ar y lôn am fisoedd ar y tro.

“Rwy’n dal i berfformio, ond erbyn hyn rwy’n hŷn ac yn gallach, ac felly’n dueddol o ddewis a dethol fy ngwyliau.

“Er enghraifft, rwy’n mynd i ffwrdd cyn bo hir i berfformio ym Methlehem gyda Mumford and Sons – nid y pentref yng Ngogledd Cymru, ond prif lwyfan gŵyl ym Mhalesteina.

“Byddaf hefyd yn gweithio gyda ffoaduriaid a chanolfannau celfyddydau cyfagos, ac mae hynny’n bwysig i mi gan ei fod tyfu allan o fy ngwaith parhaus fel un o sylfaenwyr Link International Innovation, elusen sy’n gweithio ochr yn ochr â ffoaduriaid ac arloesedd yng Nghanolbarth Affrica.

“Rwyf hefyd newydd gwblhau MA mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Durham ac mi wnaeth hynny godi o fy nghefndir fy hun fel canwr caneuon protest.

“Mae gen i ddiddordeb mewn diwylliant ar yr ymylon, a dyna pam wnes i greu 3RDSPACE ym Mragdy’r Gogarth.

“Rydym yn awyddus i ganfod trysor ein diwylliant lleol, ac arddangos yr hyn sy’n digwydd yma,” meddai Gavin.

Yn ystod y dydd mae 3RDSPACE yn fenter gymdeithasol, ac yn y nos daw’r lle’n ofod perfformio ar gyfer cynulleidfaoedd o hyd at 100 o bobl.

Erbyn hyn mae nosweithiau cerddoriaeth a chomedi yn cael eu cynnal bob mis ac ystod eang o ddigwyddiadau pop-up a phwrpasol, gyda bwyd ar y penwythnos – cafodd y lle ei enwi fel y Lleoliad Bwyd a Diod Gorau yng Ngwobrau Busnes Conwy 2016.

• Gorjys Secret, Gwesty Neuadd Caer Rhun, Conwy, dydd Sadwrn  17 Medi. Tocynnau a mwy o fanylion ar gael yn gorjys.com

Llun: Trefnydd Gŵyl Gorjys Secret, Gavin Mart, gyda Tansy Rogerson ac Anna Openshaw

Rhannu |