Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn ymgynghori ar bolisiau newydd i’r Gymru wledig yn dilyn refferendwm Ewrop
Mae Plaid Cymru wedi galw am farn pobl ar gynlluniau sy’n effeithio ar ardaloedd gwledig a chefn gwlad yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Aelod Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas, oedd yn lansio’r ymgynghoriad yn stondin Plaid Cymru yn Sioe Môn.
Meddai Simon Thomas, AC Plaid Cymru dros y Gorllewin a’r Canolbarth: “Mae’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu ffurf wahanol iawn i bolisïau amaethyddol ac amgylcheddol.
“Gallai Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru fabwysiadu agwedd ehangach tuag at gefnogi’r Gymru wledig trwy gynnwys cyllid ar gyfer seilwaith band eang a mecanwaith i gefnogi ffermwyr sydd yn cydnabod y gwerth maent yn ddwyn i gynnal yr amgylchedd a’r tirwedd sydd mor werthfawr i ni.
“Mae Plaid Cymru yn barod i frwydro dros ffermwyr a’r economi wledig; gadewch i ni weld a fydd y sawl oedd yn dadlau dros adael yr UE yn cadw at eu haddewidion.
“Buaswn i’n annog pobl i ddweud eu dweud ar yr egwyddorion allai fod yn sail i system gyflawn i gefnogi amaeth Cymru a’r amgylchedd gwledig.”
Mae’r Undeb Ewropeaidd hefyd yn gosod y fframwaith polisi a deddfwriaethol ar iechyd, hylendid a lles anifeiliaid. Ar hyn o bryd, rheoliadau’r UE sydd yn llywodraethu’r rheolaeth dros glefydau, lles anifeiliaid adeg eu lladd, yn ystod eu cludo, a phlismona’r defnydd o anifeiliaid mewn arbrofion gwyddonol. Mae’r UE hefyd yn rheoleiddio allforio a mewnforio anifeiliaid byw.
“Ar hyn o bryd, rydym yn dal yn yr UE ac y mae’r holl reolau a chosbau oedd mewn grym ar Fehefin 23 June mewn grym o hyd.” ychwanegodd Mr Thomas.