Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Awst 2016

Trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar Brexit

Mae Carwyn Jones a Leanne Wood heddiw wedi cyhoeddi eu bod yn sefydlu pedwerydd pwyllgor cyd-lynnu er mwyn delio’n benodol â materion sy’n codi yn sgil Brexit.

Fe adeiladai hyn ar bwyllgorau sydd eisoes wedi ei sefydlu er mwyn trafod cyllid, deddfwriaeth a’r cyfansoddiad, a chafodd ei gytuno mewn cyfarfod rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd yr Wrthblaid.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Rwy’n falch ein bod wedi gallu cytuno i gydweithio ar fater Brexit.

“Yn amlwg bydd rhai o’r pwyllgorau ymgysylltu eraill yn delio gyda pheth o’r canlyniadau manwl a ddaw yn sgil Brexit, ond mae’n bwysig fod y ddwy brif blaid yng Nghymru â ffordd o drafod y themâu trosfwaol sy’n ein hwynebu.

“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn rhan o drafodaethau manwl am Brexit gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig, ac er nad fydd trwch y gwaith caled yn dennu unrhyw benawdau, mae’n bwysig i eraill gael gwerthfawrogi lle yr ydym.

“Rydym angen gweithio gyda’n gilydd, lle bynnag fo hynny’n bosib, i ddangos fod blaenoriaethau pobl yn cael eu clywed a’n bod ni yn gweithredu ar sail hynny.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Mae unrhyw blaid wleidyddol gyfrifol ac aeddfed yn deall ei dyletswydd i weithio’n adeiladol gyda llywodraeth y dydd, tra’n ei dwyn i gyfrif ar yr un pryd.

“Dyna pam mae Plaid Cymru wedi cytuno i sefydlu pwyllgor cydlynnu gyda’r llywodraeth i weithio’n benodol ar ganlyniadau’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Diben y gwaith hwn fydd sicrhau fod buddiannau ein heconomi a’n cymunedau yn cael eu diogelu yn y cyfnod hwn o ansicrwydd. Rydym wedi ymrwymo tuag at Gymru lwyddiannus, yn wyneb bob her.”

Lluniau : Carwyn Jones  a Leanne Wood

Rhannu |