Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Awst 2016

Prifardd yn ennill Her Gyfieithu 2016

Glenys M. Roberts, y Prifardd Glenys Mair, a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy ,yw enillydd y gystadleuaeth Her Gyfieithu 2016.

Y wobr oedd siec am £250 a ffon farddol a gyflwynwyd gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Y gamp eleni oedd cyfieithu cerdd gan fardd o Fecsico, Pedro Serrano, naill ai i'r Saesneg neu'r Gymraeg.

Fe gyhoeddwyd enw'r enillydd ar yr ochr Saesneg eisoes adeg Gŵyl y Gelli. Trefnwyd y gystadleuaeth gan WalesPENCymru a'r Gyfnewidfa Lên, a noddwyd hi gan Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Ganwyd yr enillydd yn Nyffryn Ceiriog a’i magu ym Môn.

Ar ôl astudio Cymraeg yn Aberystwyth bu’n byw ym Morgannwg er 1970 gyda’i gwr Guto.

Treuliodd gyfnod yn athrawes Gymraeg, yn magu teulu ac yn gweithio fel swyddog golygyddol a swyddog Cymraeg i Oedolion i CBAC, cyn troi at gyfieithu a golygu ar ei liwt ei hun.

Bu’n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr a Bwrdd Arholi Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru am flynyddoedd.

Bu’n dysgu Sbaeneg ers rhai blynyddoedd.

Mae ganddi dri o blant a phedwar o wyrion, ac un arall ar y ffordd.

Dywed Ned Thomas wrth draddodi'r feirniadaeth iddi ragori ar yr ymgeiswyr eraill oherwydd ei gafael ar deithi’r iaith Gymraeg a'i gallu oherwydd hynny i gyfleu ystyr y gwreiddiol mewn Cymraeg naturiol ac idiomatig.

Dywed Sally Baker, Cyfarwyddwr WalesPENCymru: "I gymdeithas awduron ryngwladol fel ninnau mae cyfieithu yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod syniadau yn cael croesi ffiniau yn ddirwystr”; ac yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Brifysgol Aberystwyth: “Mae datblygu sgiliau cyfieithu i lefel uchel yn hanfodol i’r cynlluniau cyfnewid llenyddol a letyir yma yn Sefydliad Mercator - sef Y Gyfnewidfa Lên a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau."

 Guto, gŵr Glenys, dderbyniodd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni.

Llun: Glenys yn derbyn y ffon farddol gan Claire Richards, cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rhannu |