Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Awst 2016

Enillydd Ysgoloriaeth Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe 2016

Mae Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe wedi cyhoeddi enw enillydd ysgoloriaeth y Gymdeithas am eleni.

Penderfyniad y panel gwobrwyo – Griff Williams, Cyfarwyddwr Artistig y Gymdeithas, a’r actorion adnabyddus Rhian Morgan ac Ioan Hefin – yw cynnig yr ysgoloriaeth i Samuel Davies o Abertawe, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe. Mae’n derbyn £1,500 i’w gynorthwyo dros y flwyddyn nesaf.

Yn bedair-ar-bymtheg oed, mae gan Sam brofiad eang eisoes o berfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg; ymhlith rhestr hir o gynyrchiadau, fe oedd Defi yn ‘Pen Talar’ a Jac mewn pum cyfres o ‘Gwaith Cartref’ (S4C), ac mae wedi chwarae rhannau blaenllaw yn ‘Dr Who’ a ‘Casualty’ (BBC).

Ar lwyfan, mae’n hen law gyda chwmniau Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg a Stagecoach. Mae ar fin cychwyn cwrs tair blynedd BA Perfformio Proffesiynol yn LAMDA (London Academy of Music and Dramatic Art).

Meddai Griff Williams: "Gyda mwy o geisiadau nag erioed, a’r rheini’n geisiadau cryf, bu cryn drafod yn naturiol cyn dod i benderfyniad. Gobeithio y gwelwn ni enwau rhai o’r ymgeiswyr aflwyddiannus ymhlith ceisiadau’r flwyddyn nesaf, ond am eleni, ‘roedd y panel yn unfrydol mai i Sam y dylid dyfarnu gwobr 2016."

Mae’r ysgoloriaeth flynyddol yn agored i unigolion 18+ oed (ar 1 Medi’r flwyddyn berthnasol) sydd â’u bryd ar ddilyn cwrs gradd, ôl-radd neu gyfatebol yn un o ddisgyblaethau creadigol y ddrama: actio, sgriptio, cynhyrchu neu gyfarwyddo. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr o ddalgylch y gymdeithas, sef Abertawe, Pontarddulais, Llanelli, Cwm Gwendraeth, Cwm Aman, Cwm Nedd a Chwm Tawe. Er nad yw’r Gymdeithas yn llwyfannu cynhyrchiadau ar hyn o bryd, mae’n parhau i hybu’r ddrama Gymraeg yn yr ardal yn unol â’i hamcanion, a mae cefnogi talent ifanc trwy’r ysgoloriaeth hon yn rhan allweddol o hynny).

Rhannu |