Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mehefin 2011

Cwblhau taith gerdded

Ar ôl 14 diwrnod dilynol o niferoedd cyson a thywydd oedd bron yn berffaith, cwblhaodd 21 o gerddwyr dewr daith gerdded flynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar hyd Llwybr yr Arfordir yn gynnar ym mis Mehefin.

 

Mae’r daith gerdded flynyddol, sy’n 186 milltir ar hyd Llwybr yr Arfordir, yn cael ei harwain gan Wardeniaid Gwirfoddol yr Awdurdod ac eleni cafwyd cerddwyr o’r Swistir, Prydain ac UDA, yn ogystal â nifer o drigolion Sir Benfro.

 

Bydd y gyfres o deithiau yn eich tywys ar hyd pob rhan o Lwybr yr Arfordir o Amroth yn y de i Draeth Poppit yn y gogledd.

 

Dywedodd Derek Rowland Arweinydd y Daith a’r Warden Gwirfoddol: “Roedd yn flwyddyn eithriadol o dda eleni ym mhob ffordd. Fy 15fed daith gerdded oedd hon a’n un terfynol felly mae’n hyfryd gorffen ar nodyn uchel. Ni fedraf ganmol digon ar y Wardeniaid Gwirfoddol Kim Jameson, Ken James a Fran Vickery a’r gyrwyr a gefnogodd y cerddwyr ar hyd y daith.

“Mae’n ffordd wych o weld yr arfordir hyfryd hwn. Mae’r blodau yn ffantastig adeg yma o’r flwyddyn ac mae daeareg newidiol yr arfordir ar hyd y daith yn fy syfrdanu o hyd. Byddem yn ei argymell i unrhyw un.”

Cerddodd Mona Bodenmann, o Zurich, ychydig o’r llwybr y llynedd ar ei phen ei hun.

Dywedodd: “Roeddwn i am ddychwelyd a chwblhau’r llwybr cyfan, ond yng nghwmni pobl eraill. Roedd yn hynod o braf cerdded mewn grŵp ac roedd y daith wedi’i threfnu’n dda. Mae fy nhraed yn falch ei bod wedi gorffen, ond rydw i ychydig yn drist ei fod drosodd.

“Rydw i’n aros yn yr ardal am ychydig o ddiwrnodau er mwyn archwilio mwy o Sir Benfro a byddaf yn cymryd fy lluniau yn ôl i Zurich i hysbysu pawb o’r daith!”

 

Dywedodd Anne Humphries o Ben y Bont ar Ogwr: “Rydw i’n dwli ar Sir Benfro ac rydw i’n dod yma yn aml. Ces i wybod am y daith gerdded ar ôl ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Trefdraeth yn Chwefror ac roeddwn i’n meddwl ei fod yn gyfle gwych i gerdded gydag arweinwyr gwybodus. Mae’r straeon a’r gyfeillach wedi bod yn ffantastig - nawr mae wedi dod i ben, rydw i’n teimlo’n emosiynol ac yn sensitif, fel fy nhraed!”

Cafwyd ysbryd a hiwmor da diolch i arweinwyr y daith, gan gynnwys Fran Vickery, a blesiodd y grŵp drwy esgus bod yn Brunel wrth i’r grŵp gerdded heibio’r gerfddelw yn Neyland.

 

 

Cyflwynwyd tystysgrifau i gerddwyr gan Gadeirydd yr Awdurdod Richard Howells tu allan i gaffi Traeth Poppit. Mae Chris ac Eirian Purnell yn rhentu’r caffi a adnewyddwyd yn ddiweddar oddi wrth Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac mae ar agor saith diwrnod yr wythnos o 10am tan 5pm gydag oriau estynedig ar y penwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol.

 

Os hoffech fwy o fanylion am gerdded ar Lwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.nt.pcnpa.org.uk.

 

Os hoffech wybod am y cynlluniau ar gyfer taith tywysedig Llwybr yr Arfordir flwyddyn nesaf, cysylltwch ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 0845 345 7275 neu ewch i www.pembrokeshirecoast.org.uk.

Rhannu |