Mwy o Newyddion
Astudiaeth yn awgrymu colled enfawr o amaethyddiaeth a newidiadau yn nefnydd tir dros y ddwy ganrif ddiwethaf
Mae astudiaeth arloesol sy’n cymharu defnydd tir yng Nghymru yn y 1840au ag arferion heddiw’n awgrymu cwymp sylweddol yn y defnydd amaethyddol, yn enwedig y defnydd o dir âr, a hynny hyd yn oed yn rhanbarthau mwyaf mynyddig Cymru.
"Mae crynodeb o'r cymariaethau cychwynnol rhwng defnydd tir yng Nghymru yn y 1840au a 2015 yn yr ardaloedd y tu allan i'r Ardal Lai Ffafriol (ALFf), Ardal dan Anfantais (DA) ac Ardal dan Anfantais Fawr (AAF)" yn crynhoi’r canfyddiadau cychwynnol o astudiaeth a gyd-ariannwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae'r astudiaeth yn cymharu defnydd tir amaethyddol mewn chwe plwyf Cymreig, fel y cofnodwyd yng nghofnodion y degwm yn y 1840au ac yna’n ddigidol drwy'r prosiect Cynefin, sy’n cael ei ariannu gan y Loteri Treftadaeth, gyda gwybodaeth anghysbys cyfatebol a gofnodwyd ar y System Integredig Gweinyddu Rheoli (IACS) 2015 - cofnodion sydd angen eu diweddaru yn flynyddol gan ffermwyr o dan reolau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Cynefin Einion Gruffudd: "Mae yna debygrwydd trawiadol rhwng y wybodaeth a gofnodir yn y cofnodion degwm oddeutu 175 mlynedd yn ôl a’r wybodaeth a gofnodir yn flynyddol gan ffermwyr ar y system IACS.
"Mae'r ddau yn cael eu cysylltu trwy’r mapiau manwl ac yn cynnwys rhifau caeau, ardaloedd caeau a defnydd tir yn ogystal â gwybodaeth debyg.
"Mae yna fyddin o dros 900 o wirfoddolwyr yn trawsgrifio a digideiddio’r mapiau degwm drwy'r wefan cynefin.wales, sy'n golygu bod hi’n bosib cymharu gyda gwybodaeth a ddetholwyd o'r gronfa ddata IACS modern a hynny drwy glicio botwm."
Mae'r cymariaethau cyntaf rhwng ardaloedd a chofnodwyd fel tir âr; dolydd a phorfeydd; a choetiroedd mewn chwe phlwyf ledled Cymru - cyfanswm arwynebol o 34 milltir sgwâr (88km2); dau blwyf o ardaloedd y tu allan Ardal Lai Ffafriol (ALFf), Ardal dan Anfantais (DA) ac Ardal dan Anfantais Fawr (AAF).
Mae'r gymhariaeth yn awgrymu bod gostyngiad yng nghyfran y tir wedi'i neilltuo ar gyfer y tri prif ddefnydd o dir wrth 20%, o 74% yn yr 1840au, i 59% yn 2015, gyda'r gostyngiad mwyaf yn yr Ardaloedd dan Anfantais Fawr (AAF), lawr o 65% i 42% . Mae'r gostyngiad ar ei hisaf yn yr Ardaloedd dan Anfantais (DA) - lawr o 82% yn yr 1840au i 76% yn 2015.
Mae’r gostyngiadau amlwg i’w gweld yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu neilltuo ar gyfer cnydau ers yr 1840au ym mhob categori tir; gostyngiad cyffredinol o 85% ar gyfer pob ardal (o 2561ha yn yr 1840au i 385ha yn 2015), a gostyngiad o 80% (o 573ha i 114ha), 82% (o 1427ha i 261ha) a 98% (o 561ha i 9HA ) ar gyfer ardaloedd y tu allan i'r Ardal Lai Ffafriol (ALFf), Ardal dan Anfantais (DA) ac Ardal dan Anfantais Fawr (AAF) yn y drefn honno.
Gwelwyd bod cyfanswm arwynebedd coetiroedd fferm ar gyfer pob categori o dir wedi cynyddu'n sylweddol o 56% (o 264ha yn yr 1840au i 415ha yn 2015), sef cynnydd o 76% (o 77ha i 136ha), 0% (115ha - dim newid) a 123% (o 71ha i 159ha) ar gyfer ardaloedd y tu allan i'r Ardal Lai Ffafriol (ALFf), Ardal dan Anfantais (DA) ac Ardal dan Anfantais Fawr (AAF) yn y drefn honno.
Dywedodd pennaeth polisi UAC, a chyd awdur yr adroddiad Nick Fenwick: "Mae'r rhain yn ganfyddiadau rhagarweiniol yn ymwneud â chwe plwyf yn unig, ac mae llawer mwy o waith i'w wneud o ran dehongli a dadansoddi'r wybodaeth.
"Fodd bynnag, mae’r canlyniadau yn ymddangos fel bod nhw’n cadarnhau’r patrymau sy’n hysbys i ni’n barod o ran y newidiadau yn y defnydd o dir o fewn gwahanol ardaloedd, ac yn awgrymu bod maint y newidiadau hynny yn llym, yn enwedig o ran y gostyngiad yn nhrin y tir."
Dywedodd y dylai’r rhai hynny sy’n ystyried ac o blaid newidiadau i ddefnydd tir, yn enwedig ar gyfer dibenion amgylcheddol gymryd y canlyniadau mewn i ystyriaeth.
"Er bod y cymariaethau hyn dros gyfnod o tua 175 mlynedd, mae llawer o'r newidiadau mwyaf arwyddocaol, megis rhoi'r gorau i gynhyrchu cnydau âr a phlannu coedwigoedd helaeth, wedi digwydd dros y ganrif ddiwethaf, ac yn enwedig ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
"Yn ein profiad ni, mae llawer o'r cyfyngiadau a roddir ar ffermwyr am resymau amgylcheddol wedi eu cyflwyno gydag ychydig neu ddim cyfeiriad at ddefnydd tir hanesyddol, tra bod rhai yn ymddangos i fod yn seiliedig ar ragdybiaethau anghywir ynglŷn â ffermio yn hytrach na thystiolaeth.
"Mewn nifer o achosion, mae’r cyfyngiadau yn seiliedig ar fapiau cynefin anghywir sy'n ddim yn adlewyrchu’r tir go iawn, a does neb wedi trafferthu gofyn i'r teuluoedd sydd wedi bod yn ffermio'r tir ers canrifoedd ynglyn a’u harferion ffermio ac o bosib bod y patrymau pori wedi newid."
Dywedodd Mr Fenwick, er bod manteision mawr wedi deillio o reolaeth amgylcheddol mewn rhai ardaloedd, mae’r cyfyngiadau mewn ardaloedd arall, yn enwedig lle nad oes da byw bellach yn pori wedi achosi difrod enfawr.
"Mae'r wybodaeth a ddigidwyd drwy'r prosiect Cynefin yn amhrisiadwy o ran sefydlu llinell sylfaenol ar gyfer mesur ar raddfa fawr sut mae’r amgylchedd a defnydd tir wedi newid dros y blynyddoedd.
"Bydd hefyd yn helpu i ddarparu darlun mwy clir o ran a yw'n briodol a hefyd o bosib yn niweidiol i'r amgylchedd i gosbi pobl am aredig caeau roedd eu cyndeidiau wedi aredig fel mater o drefn ac yn tyfu cnydau âr o'r 1840au trwyddo i'r 1950au," ychwanegodd.