Mwy o Newyddion
Perchennog bwyty yn pledio’n euog i 10 trosedd hylendid
Mae cyn perchennog The Spice of Bengal, 2(a) Ffordd Portland, Aberystwyth wedi pledio’n euog i 10 trosedd hylendid bwyd gerbron Ynadon yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth ddydd yr wythnos yma.
Roedd Mr Irashadur Rahman, sydd bellach yn byw yn Romford, Llundain Fwyaf yn ateb cyhuddiadau a wnaed yn wreiddiol yn 2013.
Yn dilyn archwiliad o’r bwyty gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o dîm Gwasanaethau Ffordd o Fyw Cyngor Sir Ceredigion canfuwyd pla llygod, safonau glanhau gwael a bwyd anaddas i’w fwyta. Roedd Mr Rahman yn rheoli’r bwyty ar y pryd.
Bu i Mr Rahman fethu â bod yn bresennol yn y gwrandawiad gwreiddiol yn Llys yr Ynadon Aberystwyth yn 2013 ac o’r herwydd cyflwynwyd Gwarant Arestio arno.
Cafodd ei arestio yn Llundain ym mis Mehefin eleni gan ei roi ar fechnïaeth ar yr amod y bydd yn bresennol mewn gwrandawiad yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth yr wythnos hon.
Bu i’r Ynadon roi dirwy o £1,000 i Mr Rahman, a gorfodwyd iddo dalu costau o £1,500, yn ogystal â thalu tâl dioddefwyr ychwanegol o £15. Roedd hyn yn gyfanswm dirwy a chostau o £2515.
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Ffordd o Fyw, y Cynghorydd Rhodri Evans: “Mae achosion fel hyn yn tanlinellu pwysigrwydd gwaith ein timau bwyd a diogelwch a gwerth ein rhaglen archwilio.
"Bydd y tîm diogelwch bwyd yn gweithio gyda busnesau lleol er mwyn cyflawni a chynnal safonau hylendid bwyd cyfreithiol.
"Adlewyrchir hyn yn y Safonau Hylendid Bwyd arbennig o dda a welir ar ddrysau mwyafrif o fusnesau bwyd yng Ngheredigion.”
Ychwanegodd: “Mae hyn yn rhoi sicrwydd i’r bobl sy’n byw, gweithio ac ymweld â Cheredigion fod y bwyd maent yn ei fwyta yn ddiogel ac wedi cael ei baratoi mewn amgylchedd ag hylendid da.
"Fodd bynnag, ar achosion prin bydd yn ofynnol i’r Cyngor gyfeirio achosion difrifol o ddiffygion hylendid fel hyn i’r llysoedd er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd ac enw da ein diwydiant lletygarwch ardderchog sy’n gweithio’n galed i gynnal safonau.”
Yn dilyn cwyn i Gyngor Sir Ceredigion fod safonau wedi disgyn yn yr eiddo ym mis Awst 2013, gwnaed archwiliad ‘ar hap’ ar unwaith gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a wnaeth ganfod tystiolaeth o faw llygod, olion cnoadau yn y man lle cedwir y bwyd a’r gegin a oedd ar agor ac yn masnachu gyda’r cyhoedd.
Bu i Swyddogion ddarganfod baw ffres llygod mawr drwy gydol yr eiddo yn ogystal â chlytiau brwnt a ddefnyddir ar arwynebau paratoi bwyd, cynhwysion amrwd yn llawn pla a bwyd wedi llwydo yn yr oergelloedd a oedd 37 diwrnod y tu hwnt i’r dyddiad y dylid ei ddefnyddio. Bu i Swyddogion hefyd ganfod safonau glanhau gwael iawn yn yr eiddo.
Bu i Mr Rahman yn wreiddiol bledio’n ddi-euog i’r troseddau gan nodi nad oedd yn bresennol yn y bwyty pan gyflawnwyd y troseddau yn 2013.
Mi wnaeth newid ei feddwl a phledio’n euog yn y gwrandawiad ar ddydd Llun 25 Gorffennaf.
Penderfynwyd hefyd gan yr Ynadon yn ystod y gwrandawiad i ganiatáu cais Cyngor Sir Ceredigion i gyflwyno Gorchymyn fydd yn gwahardd Mr Rahman rhag rheoli neu redeg unrhyw fusnes bwyd arall.
Lluniau
1 – Clytiau brwnt a ddefnyddiwyd i sychu arwynebau a chyfarpar oedd mewn cysylltiad â bwyd
2 – Baw llygod mawr a deunyddiau â chnoadau a welwyd mewn gwagle uwchben nenfwd y gegin