Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Awst 2016

Chwaraewyr Pokémon Go yn cael eu hannog i gymryd gofal ar Lwybr Arfordir Sir Benfro

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn annog chwaraewyr y gêm ffôn clyfar poblogaidd Pokémon Go i gymryd gofal os ydyn nhw’n chwarae’r gêm wrth gerdded ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Mae’r Awdurdod yn gofyn i bobl barchu’r cyngor diogelwch a roddir i bawb sy’n cerdded ar hyd y Llwybr poblogaidd, gan fod y llwybr 186 milltir wedi’i farcio ar y map a ddefnyddir gan chwaraewyr y gêm realiti estynedig poblogaidd.

Dywedodd Theresa Nolan, Swyddog Llwybrau Cenedlaethol: “Byddwn yn annog unrhyw un sy’n cerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir i ddarllen Cod Diogelwch Llwybr yr Arfordir er mwyn sicrhau eu bod wedi paratoi ar gyfer yr heriau y mae’r llwybr yn eu cynnwys.

“Efallai nad yw’r rhai hynny a dynnir eu sylw gan gemau fel Pokémon Go neu sy’n defnyddio’r Llwybr ar gyfer gweithgareddau fel rhedeg yn ymwybodol o’r tir anodd, ymylon clogwyni, da byw ac unrhyw beryglon eraill y gallan nhw ddod ar eu traws. 

"Yn ogystal, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o gerddwyr eraill, oherwydd efallai y bydd angen i chi adael i eraill gerdded heibio.

“Mae Llwybr yr Arfordir a’r rhwydwaith eang o lwybrau mewndirol yn y Parc Cenedlaethol yn darparu cyfle gwych i bobl ddarganfod antur newydd, ond byddem yn eu hannog i gymryd amser er mwyn gwerthfawrogi’r golygfeydd syfrdanol sydd o’u cwmpas, yn arbennig felly gan nad yw’r mapiau ar Pokémon Go yn gwneud cyfiawnder â thirwedd safon fyd-eang Arfordir Sir Benfro!”

Yn ogystal, mae safleoedd a chanolfannau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael eu cynnwys yn y gêm gydag Oriel y Parc a safle’r Ganolfan Ymwelwyr yn Nhyddewi yn gartref i Pokéstop a Gym fel ei gilydd, gyda Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Trefdraeth, Pentref Oes yr Haearn Castell Henllys a Melin Lanwol Caeriw i gyd yn fannau o ddiddordeb ar y map.

Mae Cod Diogelwch Llwybr yr Arfordir yn datgan:

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae’n dir garw, naturiol.
  • Cadwch at y Llwybr, ac oddi ar ymylon clogwyni a bargodion.
  • Dylech oruchwylio plant bob amser, yn enwedig wrth ymylon y clogwyni.
  • Gall wynebau cerdded amrywio yn sylweddol gyda’r tywydd. Gwisgwch esgidiau cryf gyda gafael da arnyn nhw a chefnogaeth i’ch ffêr bob amser.
  • Gwisgwch neu ewch â dillad cynnes sy’n dal dŵr efo chi.
  • Gall cerdded ar ben clogwyni fod yn beryglus mewn gwyntoedd cryf.
  • Gochelwch rhag cymryd y ffordd gyntaf ar draws traethau - efallai y byddwch chi’n cael eich ynysu gan y llanw. Yn ogystal, gall nofio fod yn beryglus.
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na’u dringo.
  • Cadwch gŵn o dan reolaeth dynn.
  • Mae Llwybr yr Arfordir yn cael ei reoli ar gyfer cerddwyr; nid yw’n ddiogel nac yn gyfreithlon i farchogaeth ceffylau na seiclo ar hyd y rhan fwyaf o Lwybr yr Arfordir.
  • Gadewch giatiau ac eiddo fel ag yr oedden nhw.

Nodwch fod signalau ffôn symudol yn annibynadwy ar yr arfordir.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth ar gerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, yn cynnwys Cod Diogelwch Llwybr yr Arfordir, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/cerdded

Rhannu |