Mwy o Newyddion
Swnami'n ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Sŵnami sy’n derbyn Tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am eu halbwm llawn cyntaf, Sŵnami.
Cyhoeddwyd hyn mewn seremoni arbennig yng Nghaffi Maes B y prynhawn ‘ma. Mae’n anodd credu mai dyma albwm llawn cyntaf Sŵnami, gan fod eu caneuon mor adnabyddus drwy Gymru.
Dyma albwm o synth-pop uniongyrchol, sydd yn fwy personol na chaneuon y gorffennol, ond yn llai amwys yn ôl y band. Dyma fand sydd wedi profi llwyddiant drwy Gymru a thu hwnt, ac maen nhw wedi cynrychioli Radio 1 yn Groningen i Ŵyl Eurosonic.
Meddai Guto Brychan, un o drefnwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn: “Roedd gennym restr fer hynod eclectig eleni, gyda phob math o genres cerddorol yn cael eu cynrychioli.
"A braf oedd cael cyfle i drafod yr albymau gyda phanel mor eang, sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd.
“Mae albwm Sŵnami wedi creu argraff eleni’n bendant. Mae’r caneuon i gyd yn hynod boblogaidd eu naws ac yn apelio at gynulleidfa eang iawn.
"Dyma albwm bop sy’n llwyddo i bontio’r cenedlaethau, sy’n rhywbeth eithaf prin.
"Mae Sŵnami wedi llwyddo i greu cyfanwaith sy’n apelio at bobl o bob oed."
Dyma’r tro cyntaf i albwm bop ei naws ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn. Yr enillydd y llynedd oedd Gwenno Saunders a’i halbwm cysyniadol ‘Y Dydd Olaf’, albwm lwyddiannus iawn.
Yr enillydd cyntaf ddwy flynedd yn ôl oedd The Gentle Good am albwm cysyniadol arall, Y Bardd Anfarwol, albwm a ysbrydolodd Wyn Mason gyda’r ddrama Rhith Gân, a enillodd y Fedal Ddrama'r llynedd, ac sydd wedi’i pherfformio yn nosweithiol yn yr Eisteddfod eleni.
Y beirniaid eleni oedd Casi Wyn, Dwynwen Morgan, Elan Evans, Sioned Webb, Elliw Iwan, Siôn Llwyd, Gwion Llwyd, Ifan Dafydd a Richard Rees, a daeth y panel ynghyd ar Faes yr Eisteddfod i drafod y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth eleni.
Roedd y rhestr fer yn cynnwys yr albymau canlynol:
- 9 Bach - Anian
- Alun Gaffey
- Band Pres Llareggub - Mwng
- Brython Shag
- Calan - Dinas
- Cowbois Rhos Botwnnog - IV
- Datblygu - Porwr Trallod
- Plu - Tir a Golau
- Swnami
- Yucatan - Uwch Gopa’r Mynydd
Bydd Swnami’n derbyn tlws wedi’i gomisiynu’r arbennig ar gyfer yr achlysur gan Ann Catrin Evans.