Mwy o Newyddion
Tony Hadley i berfformio yn BBC Proms yn y Parc ym Mae Colwyn
Bydd Tony Hadley yn perfformio gyda chefnogaeth cerddorfa lawn yng nghyngerdd BBC Proms yn y Parc nos Sadwrn, Medi 10 ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Daw’r newyddion wrth i restr o berfformwyr y noson gael ei chyhoeddi.
Fel prif leisydd Spandau Ballet, daeth Tony Hadley yn un o gantorion mwyaf adnabyddus y byd cerddoriaeth bop, diolch i ganeuon poblogaidd fel Gold, True ac Only When You Leave.
Mae’n artist unigol cydnabyddedig gydag un o leisiau mwyaf adnabyddus y byd pop ac wedi treulio’r 20 mlynedd diwethaf yn diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd.
Dywedodd Tony Hadley: “Rwyf wrth fy modd yn perfformio gyda cherddorfeydd, a bydd yn anrhydedd mawr i ganu gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Cyngerdd Proms yn y Parc Bae Colwyn fydd fy sioe gerddorfaol gyntaf yng Nghymru, ac mae wedi bod yn dipyn o amser ers i mi berfformio yno fel unigolyn.”
Mae Amy Wadge, yr enillydd gwobr Grammy sy’n byw yng Nghymru - un o gyfansoddwyr caneuon cyfoes mwyaf cynhyrchiol y DU - hefyd wedi’i chadarnhau fel un o artistiaid y noson.
Daeth llwyddiant mwyaf nodedig Amy hyd yma yn sgîl ei phartneriaeth cyfansoddi hir-dymor gydag Ed Sheeran. Aeth Thinking Out Loud i rif un siart y DU ym mis Tachwedd 2014.
Dyma oedd y gân gyntaf erioed i aros yn y 40 Uchaf am flwyddyn gyfan, cyn cael llwyddiant “aml-blatinwm” byd-eang. Ym mis Rhagfyr 2015, cafodd y gân ei henwebu am dair gwobr Grammy ac fe’i henwyd yn Gân y Flwyddyn.
Cafwyd cadarnhad hefyd y bydd y tenor Wynne Evans yn perfformio ar y noson. Yn ogystal â bod yn gyflwynydd poblogaidd ar BBC Radio Wales, mae Wynne yn adnabyddus fel seren opera barodi unigryw mewn ymgyrch hysbysebu adnabyddus ar y teledu.
Astudiodd Wynne yn Ysgol Gerdd y Guildhall a’r Stiwdio Opera Genedlaethol. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae wedi canu prif rannau pwysig yn rhai o dai opera mwyaf blaenllaw y byd gan gynnwys y Royal Opera House, Opera Cenedlaethol Cymru, Teatro La Fenice, Opera De Lyon a Glyndebourne.
Aeth ei albwm cyntaf A Song in My Heart i rif un yn y siartiau clasurol. Ar wahân i’w waith operatig a chyngerdd, canodd rôl Piangi ym mherfformiad pen-blwydd 25 mlynedd The Phantom of the Opera, gafodd ei ddarlledu’n fyw o Neuadd Albert i sinemâu ledled y byd.
Wynne yw llysgennad Cymru ar gyfer ymgyrch Get Playing y BBC, sy’n annog pobl sy’n caru cerddoriaeth i fod yn rhan o ddathliadau Noson Olaf y Proms drwy ymuno â cherddorfa rithwir Get Playing. Anogir cerddorion amatur a chyn-chwaraewyr i ymweld â bbc.co.uk/getplaying am y cyfle i fod yn rhan o berfformiad digidol unigryw a fydd yn cael ei ddangos ar y sgrîn fawr yn BBC Proms yn y Parc ym Mae Colwyn ac o gwmpas y DU.
Fel y cyhoeddwyd eisoes, yn cwblhau’r rhestr o berfformwyr ym Mae Colwyn fydd y sielydd 17-mlwydd-oed, a Cherddor Ifanc y BBC 2016, Sheku Kanneh-Mason.
Mae’r digwyddiad ym Mae Colwyn yn cael ei gynnal ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae’n rhan o ddathliad Noson Olaf y Proms 2016 ledled y DU.
Mae’r achlysur teuluol poblogaidd yn croesawu torfeydd i ddod â phicnic a baneri gyda nhw i fwynhau noson o gerddoriaeth, tân gwyllt a hwyl. Bydd y cyngerdd yn cael ei ragflaenu gan berfformiadau arbennig gan dalentau cymunedol lleol, gan gynnwys y grŵp Ghostbuskers o Hen Golwyn - band o 40 o bobl sydd wedi cael ei ddatblygu fel prosiect perfformio cerddorol ar gyfer pobl o bob oedran a gallu fel rhan o fenter Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE, yn ogystal â’r band o Ynys Môn - Cordia, y bariton lleol John Ieuan Jones a Chôr Meibion Colwyn.
Mae tocynnau o flaen llaw yn costio £16 a bydd unrhyw docynnau sydd ar ôl ar y diwrnod yn £17.50. Mae tocynnau ar gael o swyddfa docynnau Venue Cymru (venuecymru.co.uk, ffôn 01492 872000) a Llinell Cynulleidfaoedd BBC NOW (bbc.co.uk/now, ffoniwch 0800 052 1812), ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar bbc.co.uk/promsinthepark.