Mwy o Newyddion
Cadeirydd Addysg Uwch Cymru
Llai na blwyddyn wedi iddo gychwyn ei rôl newydd fel seithfed Is-ganghellor Prifysgol Bangor, mae’r Athro John G Hughes wedi’i benodi’n Gadeirydd Addysg Uwch Cymru.
Etholwyd yr Athro Hughes i’r swydd gan ei gyd- Is-gangellorion a Phrifathrawon i gadeirio’r grŵp sy’n cynrychioli prifysgolion yng Nghymru. Bydd yn cymryd yr awenau’n ffurfiol ar 1af Awst 2011.
Meddai’r Athro Hughes:
“Rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli’r sector addysg uwch yng Nghymru, mewn cyfnod sydd, yn sicr yn un hanesyddol o newid i brifysgolion.”
“Mae hefyd yn gyfnod llawn her ac mae’r prifysgolion i gyd yn benderfynol o ddarparu’r addysg orau posib ac o gyfrannu tuag at ddyfodol llewyrchus i Gymru, ei heconomi, ei diwylliant a’i chymdeithas.”
Mae Addysg Uwch Cymru (AUC) yn hybu a chefnogi addysg uwch yng Nghymru, gan gynrychioli buddiannau’r aelodau i Lywodraeth Cymru, San Steffan a chyrff a sefydliadau Ewropeaidd, yn ogystal â chyd-drafod ar ran addysg uwch Cymru.
Mae AUC hefyd yn darparu adnodd arbenigol ar bob agwedd ar addysg uwch yng Nghymru i’r budd-ddeiliaid gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad, y cyfryngau yng Nghymru a’r DU, myfyrwyr, staff, arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid diwydiannol.
Wedi’i sefydlu yn 1996 i gynrychioli addysg uwch yng Nghymru, AUC yw’r cyngor cenedlaethol yng Nghymru o Universities UK.