Mwy o Newyddion
Adolygu Rôl a Chyfrifoldebau Archesgob Cymru
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn edrych o'r newydd ar rôl a chyfrifoldebau ei phrif arweinydd a gwahoddir pobl ledled Cymru i wneud cyfraniad.
Mae'r Eglwys wedi comisiynu tîm i gynnal yr adolygiad ond gobeithir y bydd cynifer o bobl ag sydd modd yn cymryd rhan.
Bydd y tîm yn gofyn am sylwadau o bob rhan o'r Eglwys a chymdeithas yn ehangach mewn gwahanol gyfnodau allweddol ac mae'n dechrau drwy wahodd sylwadau dechreuol ar rôl yr Archesgob a'r ffordd orau o roi cefnogaeth iddo ef neu hi yn y dyfodol.
Mae gan yr Archesgob ddyletswyddau o fewn yr Eglwys a hefyd yn genedlaethol ac mae angen deall y rolau hyn yn iawn fel y gallant gael cefnogaeth gadarn.
Mae'r tîm, fydd yn adrodd yn ôl erbyn y Pasg y flwyddyn nesaf, yn cynnwys pobl o bob un o chwe esgobaeth yr Eglwys.
Mae hefyd yn cynnwys dau o'r tu allan i'r Eglwys; Edwina Hart, cyn weinidog yn Llywodraeth Cymru; a Christina Baxter, cyn Bennaeth Coleg Sant Ioan, Nottingham.
Mae'r adolygiad hwn o rôl yr Archesgob yn dilyn cais gan Barry Morgan, deiliad presennol y swydd, i Gorff Llywodraethol yr Eglwys y llynedd.
Yr arfer fu yw bod yr Archesgob hefyd yn esgob esgobaethol ac y caiff ei ethol o'u plith.
Mae hyn yn golygu nad oes un Esgobaeth sydd bob amser yn Esgobaeth yr Archesgob.
Ers sefydlu yr Eglwys yng Nghymru yn 1920, bu nifer o Esgobaethau yn Esgobaeth gartref yr Archesgob.
Mae'r farn yn gwahaniaethu a ddylai'r arfer hwn barhau ai peidio neu os dylai un ohonynt bob amser fod yn Esgobaeth yr Archesgob ac, os felly, pa un.
Mae hefyd angen adolygu llwyth gwaith yr Archesgob a sicrhau os oes ffyrdd i sicrhau ei fod yn gynaliadwy ar gyfer deiliad nesaf y swydd.
Dywedodd yr Athro Gareth Lloyd Jones, cadeirydd y gweithgor: "Nid oes unrhyw amheuaeth fod Archesgob Cymru yn ffigur amlwg, nid dim ond yn yr Eglwys yng Nghymru ond hefyd yn y gymdeithas yng Nghymru.
"Mae angen i ni fod yn siŵr fod yr hyn a ofynnwn gan ein Harchesgob yn y dyfodol yn rhesymol ac addas ar gyfer Cymru heddiw.
"Dyna pam ein bod yn awyddus i ystyried barn pobl o'r Eglwys a hefyd o bob cefndir ar draws y wlad a gaiff ei gwasanaethu gan yr Eglwys yng Nghymru."
Os oes gennych unrhyw syniadau yr hoffech i'r gweithgor eu hystyried, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at Julian Luke yn: secretariat@churchinwales.org.uk
Neu ysgrifennu at:
Julian Luke, Yr Eglwys yng Nghymru, 39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9XF
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i ran gyntaf yr ymgynghoriad yw dydd Gwener 30 Medi.
Y Gweithgor
- Y Parchedig Athro Dr Gareth Lloyd Jones yw'r cadeirydd, a daw o esgobaeth Bangor. Ar ôl gyrfa academaidd nodedig mae'n Athro Emeritws mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.
- Y Gwir Barchedig John Davies yw Esgob Abertawe ac Aberhonddu ac, ar ôl yr Archesgob, yr esgob hŷn yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae ganddo gyfrifoldeb neilltuol am faterion yr eglwys a chymdeithas, yn cynnwys cyfrifoldeb cymdeithasol a gwaith bywyd gwledig.
- Mr Clive Myers yw cadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Llanelwy. Yn dilyn gyrfa fel uwch swyddog yn y diwydiant trafnidiaeth, bu ganddo rôl sylweddol yng ngwaith Corff Llywodraethol a Chorff Cynrychioladol yr Eglwys. Mae'n gadeirydd Pwyllgor Adnoddau Dynol y Corff Cynrychioladol.
- Mae Mrs Sandra Ward yn byw yng Nghaersws yn esgobaeth Bangor. Mae'n aelod o'r Corff Llywodraethol ac mae ganddi radd mewn Ffydd ac Addysg. Mae ganddi 35 mlynedd o brofiad fel cynghorydd i Cyngor Ar Bopeth ac Age Cymru.
- Y Parchedig Ganon Sian Jones yw Deon Ardal Llandeilo a Llanymddyfri yn esgobaeth Tyddewi. Mae'n gwasanaethu ym mhlwyf Catheiniog.
- Y Parchedig Ganon Steven Kirk yw Deon Ardal Merthyr Tudful a Chaerffili yn esgobaeth Llandaf. Mae'n ficer Ystrad Mynach a Llanbradach. Ef hefyd yw cadeirydd Is-bwyllgor Drafftio y Corff Llywodraethol.
- Yr Hybarch Jonathan Williams yw Archddiacon Casnewydd yn esgobaeth Mynwy. Mae'n aelod o dîm gweinidogaeth Cadeirlan Casnewydd. Mae hefyd yn gadeirydd comisiwn litwrgi yr Eglwys.
- Y Parchedig Ganon Joanna Penberthy yw Rheithor Llandrindod, ac mae'n gwasanaethu plwyf Glan Ithon yn esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.
- Bu Edwina Hart MBE yn Aelod Cynulliad Gŵyr rhwng 1999 a'i hymddeoliad yn 2016. Bu'n gwasanaethu mewn nifer o swyddi fel gweinidog yn Llywodraeth Cymru, yn fwyaf diweddar fel Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.
- Y Canon Dr Christina Baxter CBE yw cyn Bennaeth Coleg Diwinyddol Sant Ioan, Nottingham ac mae'n gyn-gadeirydd Tŷ Lleygwyr Synod Cyffredinol Eglwys Lloegr. Mae'n ganon lleyg yn Southwell.
?Llun: Archesgob Cymru Barry Morgan