Mwy o Newyddion
Gwobrwyo Plas Heli am ei gynaliadwyedd
Mae Plas Heli, yr Academi Hwylio Genedlaethol a’r Ganolfan Ddigwyddiadau newydd ym Mhwllheli, wedi ennill prif wobr y Sefydliad Peirianwyr Sifil am gynaliadwyedd.
Dyma’r trydydd tro i’r ganolfan arloesol gael ei gwobrwyo gan sefydliadau cenedlaethol eleni.
Tîm ymgynghorwyr Cyngor Gwynedd, YGC, sy’n gyfrifol am reoli’r prosiect i greu cyfleuster o’r radd flaenaf i hwylwyr o bob lefel o allu a phrofiad. Yn ogystal â chynnal digwyddiadau dingi o safon genedlaethol a rhyngwladol, mae’r cyfleusterau’n darparu hefyd ar gyfer digwyddiadau celfadau, regatas cychod hwylio a gweithgareddau chwaraeon dŵr eraill.
Mae’r beirniaid yn canmol YGC a’i bartneriaid am gyflawni’r prosiect o dan y gyllideb wreiddiol ac am y ffordd y mae deunydd a gafodd ei garthu o’r marina yn cael ei ddefnyddio i adennill tir ar gyfer bywyd gwyllt.
“Mae pob aelod o’r tîm wedi gweithio gyda’i gilydd i greu adeilad sy’n gwbl addas i’r diben a chyfleusterau marina y gellir eu hymestyn ymhellach wrth i’r cyllid ganiatáu,” meddent.
Yn gynharach eleni, enillodd Plas Heli wobr yr Adeilad Cyhoeddus Gorau yng ngwobrau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru. Roedd yr adeilad hefyd ymysg pum enillydd Gwobrau Pensaernïaeth Cymru RSAW, ac enillodd YGC Wobr Cleient y Flwyddyn RSAW am ei waith ar y prosiect.
“Mae hyn i gyd yn llwyddiant gwych i Plas Heli a hefyd i waith tîm ymgynghorwyr YGC yn gyffredinol,” meddai’r Cynghorydd John Wynn Jones, yr Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb am yr Amgylchedd.
“Rydan ni wrth ein boddau fod gwaith tîm ymroddgar a dawnus YGC yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol gan sefydliadau proffesiynol cenedlaethol o bwys.
“Rydan ni’n arbennig o falch efo’n gwobr ddiweddaraf am gynaliadwyedd gan y Sefydliad Peirianwyr Sifil, gan fod cynaliadwyedd yn rhan holl bwysig o’r prosiect o’r dechrau.
“Law yn llaw â chodi adeilad eiconig Plas Heli mae llawer o welliannau amgylcheddol wedi cael eu gwneud i’r marina, ac mi fydd y tir sydd wedi cael ei adennill yn creu cynefin i amrywiaeth o fywyd gwyllt.
“Hynod arwyddocaol hefyd yw’r ffordd y mae YGC wedi llwyddo i gyflawni’r prosiect am 65% o’r gyllideb wreiddiol. Pan ystyriwch chi gymaint o brosiectau sy’n mynd dros eu cyllideb, mae hwn yn llwyddiant nodedig. Mae’n dangos sut y mae YGC yn gwneud defnydd llawn o’i arbenigedd i roi gwerth am arian i’w gleientiaid.”
Derbyniodd YGC ei wobr ddiweddaraf gyda’i bartneriaid dylunio, Penseiri Ellis Williams Cyf, a’i bartneriaid adeiladu, Wynne Construction a Jones Bros Ruthun, gerbron cynulleidfa o 250 o arweinwyr y diwydiant yng Ngwobrau Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru 2016, yng ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd yn ddiweddar.
Caiff prosiect £8.9 miliwn yr Academi Hwylio Genedlaethol a’r Ganolfan Ddigwyddiadau ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.