Mwy o Newyddion
Aberaeron ymysg y 10 lle sydd wedi dod i’r brig yn y gystadleuaeth i fod y Lle Gorau yng Nghymru
Mae Aberaeron yn un o’r 10 lle sydd wedi dod i’r brig yn y gystadleuaeth i ennill coron y Lle Gorau yng Nghymru mewn cystadleuaeth a gynhelir gan Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) Cymru, i ddathlu rhai o’n lleoedd mwyaf deniadol ac ysbrydoledig, a’r rhan y mae cynllunwyr wedi’i chwarae wrth helpu i’w diogelu neu eu llywio ar gyfer cymunedau yng Nghymru.
Gyda’i esiamplau gogoneddus o bensaernïaeth Regentaidd sydd â lle mewn nifer fawr o galonnau, caiff Aberaeron ei gydnabod yn aml fel un o drefi glan môr mwyaf deniadol Cymru. Mae’r lleoliad distaw a lliwgar y dref, yn ogystal â’i atyniadau bywiog a’i chymuned glos, yn sicrhau mai Aberaeron yw un o berlau Ceredigion.
Dewiswyd y 10 lle gorau yng Nghymru gan banel Beirniadu y Lle Gorau yng Nghymru, a hynny o blith mwy na 200 o enwebiadau gan y cyhoedd.
Y lleoedd ar y rhestr fer yw:
- Aberaeron, Ceredigion
- Caernarfon, Gwynedd
- Harbwr Mewnol Bae Caerdydd, Caerdydd
- Dinbych, Sir Ddinbych
- Y Gŵyr, Abertawe
- Yr Aes, Caerdydd
- Promenâd Llandudno a Stryd Fawr, Conwy
- Canol Tref Merthyr Tudful, Merthyr Tudful
- Eryri, Conwy a Gwynedd
- Dinbych-y-pysgod, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Tro’r cyhoedd yw hi yn awr i fwrw’u pleidlais dros eu ffefryn, a fydd yn cael cipio coron y Lle Gorau yng Nghymru.
Meddai Peter Lloyd, Cadeirydd RTPI Cymru: “Mae’r gystadleuaeth wedi ein hatgoffa ni o’r angerdd yr ydym ni’n ei deimlo tuag at y lleoedd yr ydym ni wrth ein boddau â nhw.
"Mae’r 10 sydd ar y brig yn lleoedd sydd yn amlwg yn agos iawn at galon y cyhoedd, ac maent wedi’u diogelu, eu cynllunio’n ofalus, neu eu gwella gan y system gynllunio.
"Rwy’n annog pawb i gefnogi ei hoff le er mwyn sicrhau ei fod yn ennill!”
Mae’r cyfnod pleidleisio ar gyfer y Lle Gorau yng Nghymru wedi cael ei lansio’n ffurfiol gan RTPI Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn y Fenni. Cynhaliwyd cystadlaethau llwyddiannus tebyg yn Lloegr y llynedd, ac yn yr Alban yn 2014.
Mae’r cyfnod pleidleisio yn dod i ben ddydd Gwener 30 Medi.
Mae 3 ffordd hawdd i fwrw’ch pleidlais:
Cyflwynwch eich pleidlais ar-lein yn www.rtpi.org.uk/walesbestplace
Anfonwch eich pleidlais drwy’r e-bost at walesbestplace@rtpi.org.uk
’Rhowch eich pleidlais mewn neges Twitter, gan ychwanegu’r enw trydar @WalesBestPlaces