Mwy o Newyddion
Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad 5 mlynedd cyntaf ar sefyllfa’r Gymraeg
Ar faes yr Eisteddfod heddiw, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg yr adroddiad 5 mlynedd cyntaf ar sefyllfa’r Gymraeg.
Mae cyhoeddi’r adroddiad yn un o swyddogaethau statudol y Comisiynydd dan Adran 5 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Astudiaeth ystadegol ac ymchwil am y Gymraeg a’r defnydd ohoni yw’r adroddiad, ac mae’n canolbwyntio ar dri maes, sef adrodd ar ganlyniadau Cyfrifiad 2011, creu siaradwyr Cymraeg a defnyddio’r Gymraeg.
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn seiliedig ar ddata a gwybodaeth sy’n dod o nifer o ffynonellau; o’r Cyfrifiad a’r Arolwg Defnydd Iaith i arolygon omnibws ac ymchwil sefydliadau.
Dyma rai o brif ganfyddiadau ffeithiol yr adroddiad:
- Mae canran y plant 5-15 oed sy’n medru siarad Cymraeg wedi dyblu ers 1981.
- Bu gostyngiad o dros 20,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011 (ond cynnydd o 20,000 ers 1971).
- Mae nifer y cymunedau lle mae 70% yn siarad Cymraeg wedi gostwng o 53 yn 2001 i 39 erbyn 2011.
- Mae 13% o bobl Cymru’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.
- Mae 85% yn credu fod y Gymraeg yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ac mae 86% yn credu fod yn yr iaith yn bwysig i’r diwylliant Cymreig.
- Mae nifer sylweddol o blant yn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion, ond ni welwyd cynnydd gwirioneddol dros y blynyddoedd diwethaf.
- Mae’r data sydd ar gael yn awgrymu na fu cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn y niferoedd o blant sy’n derbyn addysg a gofal blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’r niferoedd sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg bellach ac uwch yn parhau i fod yn isel.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae’n amserol bod yr adroddiad pum mlynedd statudol hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod haf 2016.
"Rydym hanner ffordd rhwng dau Gyfrifiad, ac er mwyn troi’r gostyngiad a welwyd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011 yn gynnydd erbyn 2021, mae angen deall y rhesymau dros y gostyngiad ac adnabod y meysydd i adeiladu arnynt.
“Rydym wedi tynnu’r cyfoeth o ddata, ymchwil a gwybodaeth sydd ar gael at ei gilydd mewn un man.
“Yr her yn awr yw i wleidyddion, gweision sifil, sefydliadau a mudiadau ystyried yr adroddiad ac adnabod y cyfleoedd a’r bylchau.
"Gydag arweiniad strategol clir, cynllunio bwriadus a gweithredu effeithiol, hyderaf y bydd modd gwireddu’r nod o greu Cymru lle bydd y Gymraeg yn ffynnu a lle bydd hi’n rhan cwbl naturiol o fywyd pob dydd, ym mhob rhan o’r wlad.”
Cyflwynodd y Comisiynydd a’i swyddogion ganfyddiadau’r adroddiad mewn sesiwn gyhoeddus ym mhabell Cymdeithasau 1 ar faes yr Eisteddfod am 2 o’r gloch ddydd Mercher 3 Awst.
Mae’r adroddiad wedi ei gyhoeddi ar wefan y Comisiynydd:
http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Comisiynydd/Pages/Adroddiad%205-mlynedd.aspx