Mwy o Newyddion
Croesawu tîm Cymru i lwyfan y pafiliwn
Bydd cyfle i gynulleidfa’r Eisteddfod ddangos eu cefnogaeth i dîm pêl droed Cymru yn dilyn eu llwyddiant diweddar yng nghystadleuaeth yr Euros, heddiw, wrth i Osian Roberts ac Ian Gwyn Hughes gael eu croesawu i lwyfan y Pafiliwn y prynhawn ‘ma.
Bydd y ddau a fu’n rhan mor fawr o lwyddiant y tîm yn Ffrainc yn cael eu cyflwyno i’r gynulleidfa a’r genedl ar y llwyfan am 16.15 cyn seremoni’r Fedal Ryddiaith.
Meddai Eifion Lloyd Jones, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod: “Roedd yn braf gweld Maes D yn orlawn ar gyfer trafodaeth am bêl droed, a chael cyfle i glywed Osian ac Ian yn siarad am eu profiadau diweddar.
"Roedd yn fraint eu gwahodd ar ran yr Eisteddfod i ddod i’r Pafiliwn y prynhawn ‘ma er mwyn i ni gael dangos ein gwerthfawrogiad o’u llwyddiant.
“Mae gan yr Eisteddfod berthynas dda gyda’r Gymdeithas Bêl Droed ers blynyddoedd, ac yn y gorffennol, mae timau Cymru ar gyfer gemau wedi’u cyhoeddi yn ystod yr ŵyl.
"Braf felly yw cael cydweithio gyda’r Gymdeithas heddiw, er mwyn i gynulleidfa a chefnogwyr yr Eisteddfod gael cyfle ei longyfarch y tîm drwy bresenoldeb Ian ac Osian, a dweud diolch yn fawr iddyn nhw am bopeth.”