Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mehefin 2011

S4c yn cyfarfod gwylwyr ym Môn

Bydd trigolion Ynys Môn yn gallu mwynhau nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu gan S4C – o ddathlu diwedd taith Y Goets Fawr, i gwis tafarn, cyfarfod cyhoeddus a diwrnod o hwyl i’r teulu.

Bydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal rhwng 25 Mehefin a 9 Gorffennaf o dan ambarél yr ymgyrch Calon Cenedl. Fel rhan o’r ymgyrch, mae S4C yn ymweld â chymunedau ledled y wlad i hyrwyddo ei rhaglenni, personoliaethau a gwasanaethau ar-lein. Mae’r Sianel eisoes wedi ymweld â Cheredigion ac ardal Llŷn ac Eifionydd eleni.

Bydd y digwyddiadau yn cynnwys Noson Gwylwyr Môn fydd yn gyfle i bobl yr ardal roi eu barn ar raglenni a gwasanaethau S4C. Bydd y noson yn Ysgol Uwchradd Bodedern nos Fercher 6 Gorffennaf yn gyfle i wylwyr gwrdd â holi Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones, a’r Prif Weithredwr Arwel Ellis Owen.

Yn ogystal â digwyddiadau agored rhad ac am ddim, bydd criw cyflwynwyr Stwnsh yn dod ag ychydig o hwyl a miri i ysgolion Môn, a bydd cymeriadau o’r gyfres newydd Marcaroni i blant iau hefyd yn ymweld ag ysgolion yr ardal.

Yn dechrau’r gyfres o ddigwyddiadau i’r cyhoedd ar 25 Mehefin bydd cyflwynydd Byw yn yr Ardd, Russell Jones yn cynnig help llaw i adnewyddu gardd ar Draeth Newry, Caergybi. Bydd hefyd diwrnod o hwyl i’r teulu a Russell yn beirniadu cystadleuaeth ‘Caergybi yn ei Blodau’.

Ar 28 Mehefin bydd cwis yng nghwmni cast Rownd a Rownd yn Y Bull, Llangefni. Y wobr i’r tîm buddugol fydd £200 ar gyfer elusen neu gynllun lleol.

Dewch i ddathlu diwedd taith Y Goets Fawr drwy ogledd Cymru gyda Shân Cothi ac Ifan Jones Evans ar nos Iau 30 Mehefin. Bydd y digwyddiad ger Amgueddfa Arforol Caergybi yn cynnwys gorymdaith o geffylau a choetsys ac adloniant.

Ar ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf bydd S4C yn rhan o Ddiwrnod o Hwyl ym Mryngwran gyda stondinau, gemau, raffl, pêl-droed, gwîb-gartio a beiciau cwad, a bydd cyngerdd yng nghwmni Elin Fflur â’r Band gyda’r hwyr.

Yng Nghlwb Wellman’s, Llangefni ar nos Lun 4 Gorffennaf bydd cyfle i drafod rhai o bynciau llosg byd amaeth gyda thîm Ffermio. Bydd Daloni Metcalfe yn cadeirio’r drafodaeth gyda phanel o rai o bobl amlwg byd amaeth yr ardal. Mae’r digwyddiad yn rhan o daith Ffermio fydd yn ymweld â nifer o ardaloedd ar hyd y wlad yn ystod yr wythnosau i ddod.

Noson o sgwrsio, holi a blasu yng nghwmni Dudley Newbery fydd yng Ngwesty’r Dinorben Arms, Amlwch ar ddydd Mawrth 5 Gorffennaf. Ac ymunwch â thîm cynhyrchu rhaglen ‘Sgota yn Neuadd Goffa Amlwch ar nos Wener 8 Gorffennaf er mwyn cael cip ar y gyfres newydd.

Yn cloi’r cyfan, bydd Sam Tân a Sali Mali yn ymuno yn holl hwyl carnifal cyntaf Llangefni ers deunaw mlynedd. Dewch draw i ymuno yn y miri yn Ysgol Llangefni ar ddydd Sadwrn 9

Rhannu |