Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Awst 2016

Mapiau hanesyddol Cymru yn datgelu defnydd yr iaith Gymraeg yn Y Fenni – cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Tra bod rhai yn ystyried bod y Gymraeg yn gymharol wan yn sir Fynwy, mae prosiect Cynefin wedi datgloi tarddellau hanesyddol sy’n tystio mor bwysig yw’r Gymraeg yn hanes y sir.

Bydd trafodaeth o’r Gymraeg yn sir Fynwy yn cael ei gynnal ym mhabell cymdeithasau 2 ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau am 4:30pm gydag Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin, a Dr Elin Jones, Llywydd yr Eisteddfod.

Fel hanesydd blaenllaw bydd Dr Elin Jones yn rhoi’r cyd-destun, tra bod Einion Gruffudd yn canolbwyntio ar dystiolaeth o’r mapiau degwm y mae prosiect Cynefin eisoes wedi eu digido.

Cafodd mapiau degwm eu creu yn yr 1840au, yr un adeg a phan oedd Eisteddfodau’r Cymreigyddion yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn Y Fenni. Erbyn hyn, mae’r mapiau degwm i’w gweld ar-lein ar wefan cynefin.cymru, ac maent yn dangos poblogrwydd yr iaith Gymraeg yn ystod y cyfnod.

Dywedodd Einion Gruffudd “Erbyn hyn mae lle i gredu bod dros hanner enwau caeau’r ardal yn Gymraeg yn ystod yr 1840au, sy’n adlewyrchu iaith gweision ffermydd yr ardal yn ystod y cyfnod.” 

Dangosir stad Llanofer ar fap degwm plwyf Llanofer, ble trigai Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, neu ‘Gwenynen Gwent’ a oedd yn chwarae rhan allweddol yn trefnu ac ariannu Eisteddfodau’r Cymreigyddion.

Mae mapiau degwm yr ardal hefyd yn adrodd hanes y Siartwyr. Cafodd y mapiau eu dylunio’r un adeg a fyddai’r Siartwyr wedi gorymdeithio ar hyd dyffrynnoedd De Cymru i brotestio am bleidlais deg.

Fel rhan o brosiect Cynefin mae’r dogfennau achosion llys yn erbyn y Siartwyr, yn dilyn eu hymosodiad ar Gasnewydd yn 1839, yn cael eu cyflwyno a’u trawsgrifio ar-lein. Er bod yr achos llys a’r dogfennau yn Saesneg, maent yn cynnwys cyfeiriadau at y Gymraeg ac at gyfieithu.

Mae’r dogfennau yma yn arwydd amlwg bod llawer o’r diffynyddion yn Gymry Cymraeg ac yn wir mewn llawer o achosion, yn methu siarad Saesneg.

O edrych ar y ffynonellau hanesyddol yma, mae’n amlwg bod y Gymraeg mewn defnydd helaeth yn sir Fynwy, ac y dylid cofio hynny wrth astudio hanes y sir. Dangosir hyn fod dogfennau hanesyddol yn holl bwysig i greu darlun clir a chyflawn o’n hanes fel cenedl.

Mae dogfennau’r siartwyr yn cael eu trawsgrifio ar siartwyr.cynefin.cymru ar hyn o bryd, a dogfennau’r degwm ar cynefin.cymru

Llun: Dr Elin Jones

Rhannu |