Mwy o Newyddion
Trysor Llychlynnaidd i’w weld am y tro cyntaf
Bydd celc o arian Llychlynnaidd, sy’n dyddio’n ôl 1,000 o flynyddoedd, yn cael ei arddangos am y tro cyntaf fel rhan o arddangosfa Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sydd i’w gweld tan 30 Hydref.
Cafwyd hyd i’r trysor yn Llandwrog yn 2015 gan Mr Walter Hanks a’i ddatgelydd metel.
Mae’r celc, sy’n cynnwys ingotau a cheiniogau, yn dyddio’n ôl bron i fil o flynyddoedd i gyfnod Cnut, Brenin Lloegr (1016-35).
Mae’r celc yn cynnwys 14 o geiniogau a fathwyd yn Nulyn yn ystod teyrnasiad Sihtric Anlafsson (989-1036), llywodraethwr Hiberno-Lychlynnaidd.
Mae wyth o’r ceiniogau’n dyddio o tua OC 995, a’r chwech arall wedi’u cynhyrchu tua OC 1018. Cafodd y celc ei gladdu tua 1025.
Mae Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol yn archwilio sut mae archaeoleg wedi siapio diwylliant poblogaidd, a dylanwad diwylliant poblogaidd ar archaeoleg, ers i’r anturiaethwyr cyntaf ddechrau archwilio’r hen fyd.
Mae’r arddangosfa yn rhan o Flwyddyn Antur yng Nghymru 2016 ac yn cynnwys gwrthrychau cyffrous sydd i’w gweld am y tro cyntaf yng Nghymru, gan gynnwys aur Cyn-Golumbaidd; arteffactau hynafol o gloddiadau Schliemann ym Mycenae,
Groeg; dyfrlliwiau a darganfyddiadau o deithiau Giovanni Belzoni i’r Aifft ar ddechrau’r 19eg ganrif; a’r penglog grisial o ffilm Indiana Jones and the Kingdom of The Crystal Skull, diolch i’r Lucas Museum of Narrative Art.
Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil Adran Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru: “Mae gan Gymru ei siâr o anturiaethau a thrysorau archaeolegol.
"Mae celc Llandwrog yn ychwanegu at y darlun sydd gennym o gyfoeth ac economi teyrnas Gwynedd yn yr 11eg ganrif.
"Yn ogystal â hyn, bydd ymwelwyr yn gweld celc o geiniogau a modrwyau Rhufeinig o Sili, arian o longddrylliad yr Ann Francis a gollwyd ar draeth Margam ym 1583, a gweddillion dynol o gladdedigaethau Llychlynnaidd yn Llanbedr-goch, Ynys Môn.”
Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol yw’r arddangosfa gyntaf i gael ei dangos yn yr orielau arddangosfeydd dros-dro ar lawr gwaelod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ers iddynt gael eu hadnewyddu – gwaith oedd yn bosibl diolch i Lywodraeth Cymru.
Mae ffi mynediad ar gyfer yr arddangosfa hon. Gallwch brynu tocynnau ar-lein ymlaen llaw (www.ticketlineuk.com/event/national-museum-cardiff/treasures-adventures-in-archaeology-exhibition-national-museum-cardiff-buy-tickets-5540) neu yn yr Amgueddfa ar y diwrnod (os oes rhai ar gael). Pris llawn £7; gostyngiadau £5; ac mae mynediad am ddim i blant 16 oed neu iau. Mae mwy o fanylion ar y wefan: www.amgueddfa.cymru
Mae’r arddangosfa ar agor o 10am bob dydd heblaw dydd Llun (ac eithrio dyddiau Llun Gŵyl y Banc), gyda’r mynediad olaf am 4pm.
Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa ei hun, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.