Mwy o Newyddion
Anne Denholm i serennu yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru
MAE telynores swyddogol Tywysog Cymru yn cymryd seibiant o’i dyletswyddau brenhinol i berfformio yn un o brif wyliau cerddoriaeth gogledd Cymru.
Bydd Anne Denholm, 24 oed, yn gwneud ei hymweliad cyntaf â Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar gyfer cyngerdd Dyheu/Ysbrydoli ar ddydd Iau 22 Medi.
Bydd yn serennu yn y cyngerdd ynghyd â’r pianyddion enwog Iwan Llewelyn Jones a Siwan Rhys, yn ogystal â disgyblion o Ysgol Glan Clwyd a Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych.
Caiff yr ŵyl ei chynnal gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Tŷ Cerdd a bydd yn parhau tan ddydd Sadwrn 1 Hydref.
Mae Anne, a ddaeth y pumed cerddor y llynedd i gael ei phenodi yn Delynores Swyddogol i Dywysog Cymru ers ailsefydlu’r rôl yn y flwyddyn 2000, yn hanu’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin ond bellach mae hi’n byw yn Llundain.
Meddai: “Roeddwn wedi synnu ac roedd yn anrhydedd fawr pan ofynnwyd i mi ddod yn bumed delynores swyddogol Tywysog Cymru. Rwyf wedi dod i adnabod Clarence House, Palas Buckingham a Phalas St. James
“Roedd y cyfan yn dipyn o newid byd ar y dechrau, ond mae’r staff yn gymorth mawr ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth i’w wneud. Mae’n fraint fawr ac mae’n anrhydedd cael perfformio ar gyfer y Tywysog Charles a’i westeion.
“Mi ddechreuais i ddysgu chwarae’r delyn pan oeddwn yn blentyn ac, fel llawer o blant, er fy mod yn caru’r offeryn doeddwn i ddim bob amser efallai mor ddiwyd ag y gallwn fod.
“Ond mae’n wir i ddweud erbyn i mi ddod yn 13 oed roeddwn yn ymroddedig ac yn gwybod mai dyma oedd y cyfan roeddwn am ei wneud.
“Dechreuais fynychu’r Ysgol Sadwrn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yng Nghaerdydd.
“Gan fy mod yn byw yn Sir Gaerfyrddin, roedd hynny’n golygu tipyn o ymrwymiad ar ran fy rhieni a oedd yn gorfod fy ngyrru nôl a mlaen i Gaerdydd bob wythnos.
“Fodd bynnag, does dim amheuaeth fod hynny wedi talu ar ei ganfed a fy helpu i symud ymlaen.
“Roeddwn yn ffodus i gael athro mor dda ac mae’r cynnydd rwyf wedi ei wneud wedi bod yn anhygoel.
“Wedyn es i Ysgol Purcell a Phrifysgol Caergrawnt cyn derbyn fy ngradd Meistr o’r Academi Gerdd Frenhinol.”
Yn 2014 enillodd Anne y wobr gyntaf yn y categori unawd offerynnol 19-25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac yna cafodd ei dewis i gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yr Urdd.
Mae Anne, sy’n mwynhau perfformio fel rhan o gerddorfa lawn yn ogystal â chynnal perfformiadau ar ei phen ei hun, yn bwriadu cynnwys rhai darnau Cymreig cyfoes yn ei rhaglen ar gyfer gŵyl Llanelwy.
Ychwanegodd: “Byddaf yn un o nifer o gerddorion fydd yn perfformio yn y cyngerdd, gan gynnwys y pianyddion Iwan Llewelyn Jones a Siwan Rhys, yn ogystal â disgyblion o Ysgol Glan Clwyd a Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych.
“Mae’r cyngerdd yn argoeli bod yn un gwych ac amrywiol ac rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r delyn i gynulleidfa ehangach.”
Dywed Ann Atkinson, cyfarwyddwr artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, ei bod wrth ei bodd fod Anne Denholm wedi cytuno i berfformio yn yr ŵyl eleni.
Meddai: “Mae Anne yn un o’r telynorion ifanc gorau ac roedd ei phenodiad i rôl Telynor Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn haeddiannol iawn.
“Mae ethos yr ŵyl yn golygu denu’r cerddorion clasurol gorau i ogledd Cymru ac yn achos Anne Denholm dyna’n union rydym wedi ei gyflawni.
“Bydd cyngerdd Dyheu/Ysbrydoli yn noson wych o gerddoriaeth ac mae’n un rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar ati.”
Ychwanegodd: “Bydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru eleni hefyd yn gweld cerddorion dawnus eraill yn perfformio, yn eu plith y pianydd Janina Fialkowska, y gitarydd clasurol Miloš Karadagli? a Margaret Preece, y soprano o sioeau’r West End.
“Hefyd yn ymddangos bydd grwpiau lleisiol Ex Cathedra, Cantorion Dyffryn Clwyd a Chôr yr Ŵyl a cheir perfformiad hefyd gan y feiolinydd Tamsin Waley-Cohen, yn ogystal â hyn bydd yr ŵyl yn gweld llwyfannu première rhyngwladol Symffoni Rhif 2 Paul Mealor gyda’n cerddorfa breswyl y NEW Sinfonia.
“A chyda nifer o ddosbarthiadau meistr a Diwrnod Addysg trawsgwricwlaidd ar thema Roald Dahl fydd yn cynnwys Ensemble Cymru, ac a gefnogir gan Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal â’n taith gymunedol, a gefnogir gan Cartrefi Conwy a Chelfyddyd a Busnes Cymru, gan gynnwys y cyngherddau ysgol a phlant bach gyda cherddorion Live Music Now Cymru, mae gan ŵyl eleni rhywbeth at ddant pawb.”
I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, ewch i www.nwimf.com. Mae tocynnau ar gael o Theatr Clwyd, 01352 701521 neu Cathedral Frames, Llanelwy, 01745 582,929.