Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Awst 2016

Guto Dafydd yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen

Guto Dafydd, enillydd Coron yr Eisteddfod ddwy flynedd yn ôl, yw enilllydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.

Tasg y naw a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, sy’n rhoddedig gan Gymuned Llanofer.

Y beirniaid oedd Jon Gower, Fflur Dafydd a Gareth F Williams, ac wrth draddodi’r feirniaidaeth dywedodd Jon Gower: “Nofel yw Ymbelydredd gan ‘246093740’ am yr hyn a ddigwydd i ŵr ifanc o Wynedd wrth iddo ddilyn cwrs radiotherapi ym Manceinion.

“Mae hon yn nofel wych, ac mae’r awdur i’w ganmol, nid leiaf oherwydd iddo lwyddo i osgoi unrhyw sentimentalrwydd a fuasai wedi baglu nifer o awduron llai medrus.  

“Mae’r ffaith i’r nofel gael ei lleoli ym Manceinion, ac i’r byd anghyfarwydd, dinesig hwn gael ei ddarlunio trwy lygaid Cymro, hefyd yn chwa o awyr iach, ac mae’r arddull yn llwyddo i fod yn gynnil ond eto’n synhwyrus, yn ddadansoddiadol, ac yn athronyddol.

"Er i’r awdur wneud bob ymdrech i gryfhau’r naratif trwy wau is-blot terfysgol i mewn i’r stori, ar adegau roedd hyn yn teimlo fel gorymdrech ar ran yr awdur. 

“Wedi dweud hynny tipyn o gamp yw creu nofel sy’n teimlo’n gyfoes ac yn Ewropeaidd, tra’n llwyddo i fod yn gwbl Gymreig ar yr un pryd – ac mae’n cynnwys dychan digon tywyll ar adegau, sy’n gwneud i ni ystyried ein diwylliant a’n traddodiadau o’r newydd.

“Dyma’r awdur sydd â’r weledigaeth gryfaf, ddifyrraf, ac ef neu hi sy’n haeddu’r wobr hon eleni, gyda nofel rymus a fydd yn cyfoethogi bydoedd yr holl ddarllenwyr a ddaw ar ei thraws.”

Yn enedigol o Drefor, aeth Guto Dafydd i Ysgol yr Eifl, Trefor, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a Choleg Meirion-Dwyfor cyn graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Ar ôl bwrw’i brentisiaeth mewn eisteddfodau lleol, enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013 a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014.

Mae wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Ni Bia’r Awyr (Cyhoeddiadau Barddas), nofel dditectif i bobl ifanc, Jac (Y Lolfa), a nofel i oedolion, sef Stad (Y Lolfa).  Cymer ran yn aml mewn digwyddiadau llenyddol o bob math.

Mae wedi ymddangos ar y teledu a’r radio sawl tro i drafod llenyddiaeth, ac mae’n ymrysonwr ac yn dalyrnwr brwd. Mae’n un o’r tîm creadigol sydd wrthi’n creu cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, a fydd yn seiliedig ar y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Guto’n byw ym Mhwllheli gyda’i wraig Lisa a’u plant, Casi Mallt a Nedw Lludd.  Wrth ei waith bob dydd, mae’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg fel Swyddog Cydymffurfio. Yn ei amser hamdden, mae’n drysorydd Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr ac yn aelod o bwyllgor gwaith Barddas.

Yn ystod hydref 2015, bu’n rhaid iddo gael cwrs o radiotherapi ar ffibromatosis ymosodol ar wal y frest. Y cyfnod o chwe wythnos a dreuliodd ym Manceinion ar gyfer y driniaeth honno yw’r sail ar gyfer y nofel Ymbelydredd. 

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

 

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni tan 6 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

Rhannu |