Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Awst 2016
Gan ANDROW BENNETT

Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi gwrthod caniatâd i glwb Hull City siarad gyda Chris Coleman

Daeth y newyddion calonogol ddydd Mawrth fod Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi gwrthod caniatâd i glwb Hull City siarad gyda rheolwr ein tîm cenedlaethol, Chris Coleman, yn dilyn ymadawiad Steve Bruce, fu’n rheolwr ar y clwb ar lan yr Afon Humber ers pedair blynedd.

Roedd Coleman, wrth gwrs, wedi arwyddo estyniad dwy flynedd i’w gytundeb gyda’r Gymdeithas cyn iddo arwain y tîm cenedlaethol i rownd gynderfynol Ewro 2016 yn Ffrainc fis yn ôl.

Mae’r Gymdeithas wedi datgan eu bod hwythau, ynghyd â Coleman a gweddill y tîm hyfforddi, bellach yn canolbwyntio ar yr ymdrech i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 fydd yn cael eu cynnal yn Rwsia.

Tra bod manylion cytundeb Coleman ddim yn hysbys i’r cyhoedd benbaladr, mae’n siŵr ei fod wedi derbyn bonws hael yn dilyn y llwyddiant diweddar ac mae e wedi datgan ei fod yn awchu am gael arwain y chwaraewyr i fannau uwch dros y ddwy flynedd nesaf.

Digon bregus yw bywyd rheolwyr timoedd pêl droed, boed yn rhai cenedlaethol fel yn achos Roy Hodgson (Lloegr) a Marc Wilmots (Gwlad Belg) neu glybiau fel y gwelwyd pan ddiswyddwyd cyn-reolwyr Abertawe, Brendan Rodgers a Roberto Martinez gan y ddau brif glwb yn ninas Lerpwl o fewn y misoedd diweddar.

Ydy, mae’n wir taw o’i wirfodd ei hunan y gadawodd Steve Bruce Hull City, ond mae’n debyg fod ei berthynas gyda pherchnogion y clwb wedi bod dan straen ers tipyn ac felly, hyd yn oed heb ymyrraeth y Gymdeithas, falle na fyddai Coleman wedi bod yn awyddus i drafod symud ar hyn o bryd.

Gydag ond mis cyn gêm gyntaf Cymru yn yr ymgyrch i gyrraedd Rwsia yn 2018, mae cadw Coleman yn ei swydd o bwys mawr i’r Gymdeithas er mwyn cadw at yr un cwys llwyddiannus a agorwyd yn Ffrainc.


 

Rhannu |