Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Awst 2016

AS Arfon yn galw am weithredu brys i ddelio â diffyg cysylltiad band eang

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams yn dadlau fod busnesau gwledig yng ngogledd Cymru dan anfantais sylweddol oherwydd mynediad cyfyngedig i fand eang ffibr cyflym.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan fod darpariaeth annibynadwy band eang yn rhoi busnesau gwledig dan anfantais mawr gan wneud i ddarpar gyflogwyr feddwl ddwywaith cyn buddsoddi mewn ardaloedd o'r fath. 

Mae Hywel Williams wedi derbyn nifer o gwynion yn ddiweddar gan etholwyr a busnesau, sydd wedi eu cythruddo gan ddiffyg cysylltedd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig megis Rhyd Ddu, Deiniolen, rhannau o Fangor ac Abergwyngregyn lle mae mynediad i fand eang cyflym yn eithriadol o annibynadwy.

Meddai: “Mae uwchraddio seilwaith digidol mewn ardaloedd gwledig yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw’r economi wledig o dan anfantais bellach.

"Mae'r sefyllfa bresennol yn rhoi busnesau o dan anfantais gan wneud i ddarpar gyflogwyr feddwl ddwywaith cyn buddsoddi mewn ardaloedd o'r fath.

“Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig fel rhannau o Arfon, yn darganfod fod cynnydd araf mewn darpariaeth band eang cyflym yn cael ei waethygu gan gysylltedd cyffredinol gwael, o ystyried pa mor annibynadwy yw signal ffonau symudol sy’n amrywio o ddarparwr i ddarparwr.

“Ni all busnesau gwledig fforddio dibynnu ar fasnachu dyddiol yn yr un modd â busnesau mewn ardaloedd trefol megis Llundain neu Gaerdydd. Felly mae mwy o ddibyniaeth ar gwsmeriaid ar-lein. Dyma yw barn llawer o fusnesau yn fy ardal.

“Mae'n rhaid i'r 5% o gartrefi sydd y tu allan i gynllun blaenllaw Superfast Cymru Llywodraeth y DU a Chymru gael eu blaenoriaethu i dderbyn cysylltiad cyflymder uchel dibynadwy cyn gynted ag y bo modd.

“Mae'n hollbwysig bod y Llywodraeth a BT yn cynnal y momentwm ac yn bwrw ymlaen â rhaglen band eang cyflym fel bod y bwlch mewn argaeledd rhwng Gwynedd (53%) a chyfartaledd y DU (75%) yn cael ei leihau yn sylweddol.

“Mae pobl sydd yma ar eu gwyliau hefyd wedi dod i ddibynnu ar wasanaeth Wi-Fi o safon uchel wrth ymweld â'r ardal.

"Ni all hyn gael ei ddarparu yn y lleoliadau mwyaf poblogaidd ac mae hyn yn bryder gwirioneddol i berchnogion parciau carafannau lleol.”

Rhannu |