Mwy o Newyddion
Ennill car newydd
Daeth y Nadolig yn gynnar i un bachgen ifanc o Dreforys, Abertawe yn ddiweddar pan enillodd gar Kia Picanto, 5 drws o dan nawdd Garej Gravells yn raffl fawreddog Eisteddfod yr Urdd, Abertawe a’r Fro.
Roedd y car yn wobr mewn raffl a drefnwyd gan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i godi arian ar gyfer yr ŵyl, a gynhaliwyd ar safle Felindre yn Abertawe yn gynharach y mis yma. Bu’r Eisteddfod yn llwyddiant gan atynnu 15,000 o gystadleuwyr a dros 90,000 o ymwelwyr i Brifwyl yr ieuenctid.
Bu i’r raffl godi bron i £10,000 ac mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod eleni fe gyhoeddodd y Miss Wales presennol, Courtney Hamilton yng nghwmni David a Jonathan Gravell a channoedd o Eisteddfodwyr mai David Jones oedd enillydd lwcus y car.
“Dwi’n hollol ecstatig!,” medd David sy’n astudio ar gyfer ei arholiadau AS mewn Mathemateg, Ffiseg a Busnes yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe. “Fe gysylltodd cwpl o bobl yn dilyn tynnu’r raffl a dweud mod i wedi ennill. Ro’n i mor falch. Fy ngwaith rhan amser yw dosbarthu pizza, felly fel y gallwch ddychmygu fe fydd o fudd mawr i fi i gael mynd â’r pizzas o ddrws i ddrws mewn car newydd sbon.”
Rhoddwyd y car Kia Picanto 5 drws gan y gwerthwyr ceir Gravells, cwmni teuluol a’r gwerthwyr ceir Renault hynaf yng Nghymru sydd â garej yng Nghydweli, Abertawe ac Arberth. Roedd holl elw’r raffl yn mynd tuag at Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe a’r Fro.
Dywed Jonathan Gravell, Rheolwr Gyfarwyddwr Gravells, un o brif noddwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Mae Gravells yn falch iawn o’r bartneriaeth gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac yn falch o gael cefnogi’r Eisteddfod eleni yn y ffordd yma. Mae David yn amlwg wrth ei fodd gyda’r car Kia newydd a hoffwn ddymuno’n dda iddo at y dyfodol.”
Dywed Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Rydym yn falch iawn fod Gravells yn parhau yn eu cefnogaeth i’r Eisteddfod ac yn enwedig am eu rhodd hael o gar, sydd wedi bod o fudd i ariannu’r Eisteddfod yn Abertawe eleni. Trwy ein partneriaeth, rydym yn gallu cynnig ystod eang o gyfleoedd i blant a phobl ifanc i arddangos a datblygu eu doniau.”