Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Awst 2016

Taith Mary Jones i'r Bala yn ysbrydoli cyfrol i ferched

Bydd Cymdeithas y Beibl a Byd Mary Jones yn lansio cyfrol newydd wedi ei ysgrifennu gan ferched i ferched yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni fory, dydd Mercher, am 12 o'r gloch.

Yn 1800 cerddodd merch 15 mlwydd oed 26 milltir ar draws gwlad o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala i chwilio am Feibl Cymraeg.

Wedi ei hysbrydoli gan y daith honno, mae cyfrol Agor y Gair gyda Mary yn annog darllenwyr i ddilyn y daith gyda darlleniad bob dydd am 26 o ddyddiau, yn cynrychioli'r 26 milltir o'r daith.

Mae 24 o ferched wedi cyfrannu at Agor y Gair i gyd a'r gyfrol yn ffrwyth llafur datblygiad ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl a merched o amrywiaeth eang o eglwysi a sefydliadau yng Nghymru.

Meddai Christine Daniel, Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru ac un o olygyddion y gyfrol: "Rydym yn hynod o falch o fedru lansio'r gyfrol hon.

"Roedd Mary Jones yn wraig ifanc arbennig iawn ac yn ysbrydoliaeth i nifer ohonom.

"Yn y gyfrol hon roeddem am ddathlu ei champ, ei phenderfyniad a'i ffydd a'i ddefnyddio er mwyn helpu merched yn ei bywyd ddydd i ddydd.

"Rydym wedi annog ein cyfranwyr i ddefnyddio eu llais eu hunain ac mae'n adlewyrchu merched o bob cwr o Gymru, o bob oed, yn Gymry iaith gyntaf ac yn ddysgwyr."

Mae'r llyfryn yn cyd-fynd gyda thaith thywys arbennig sydd wedi ei threfnu i grwpiau merched yn benodol i Byd Mary Jones yn Llanycil ger y Bala.

Gellir prynu'r gyfrol yn Byd Mary Jones neu ar lein trwy siop Cymdeithas y Beibl.

Gyda darlleniadau o'r gyfrol gan rai o'r cyfrannwyr a mwy am hanes Mary Jones ei hun a'i thaith, bydd y gyfrol yn cael ei lansio gan Gymdeithas y Beibl a Byd Mary Jones ym Mhabell Cytun ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 12yp ddydd Mercher, Awst 3. Mae croeso mawr i bawb.

Rhannu |