Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Awst 2016

John ac Alun i ryddhau record hir newydd wedi hir ddisgwyl

Mae’n deng mlynedd ers i John ac Alun rhyddhau record hir newydd, ac fel mae’r teitl yn awgrymu, mae ‘na chryn ddisgwyl wedi bod amdani.

Yn rhannol, y rheswm am yr oedi yma oedd dymuniad yr hogia’ i lywio pob agwedd o’r gwaith, hynny o safbwynt pa ganeuon i’w recordio, pa fath o deimlad ddylai fod arnyn nhw a pha fath o gynhyrchiad fyddai’n siwtio orau.

Yng nghartre’ Alun yn Nhudweiliog recordiwyd y cwbl, dros gyfnod o ddwy flynedd.

Alun sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r trefniadau â’r offerynnau ar y record yma hefyd, ac fel mae John yn esbonio: “"oedd yn braf cael picio draw bob hyn a hyn i wrando ar y trefniadau ac i roi’r llais i lawr ac ati - a hynny mewn ffordd hamddenol tros gyfnod estynedig.”

Bu John Williams o Fangor yn gyfrifol am y piano a’r allweddellau a chyfrannodd nifer o syniadau i’r caneuon wrth wneud hynny.

“Roedd gen i gân wedi ei sgwennu yn barod sef ‘Merch y Dre’, ac eisoes wedi ei pherfformio mewn gigs, felly roedd ‘na fan cychwyn,” meddai John.

“Ond roedd hi’n fater o gael mwy o ganeuon, felly dyma godi’r ffôn a chael sgwrs hefo sawl cyfansoddwr gan gynnwys Alun ’Sbardun’ Hughes.

"Chwarae teg, fe anfonodd gân hyfryd yn dwyn y teitl ‘Hir a Hwyr’. Rydym yn falch o ddweud fod ‘Sbard’ wedi cael clywed y gân cyn ei farwolaeth ac roedd wedi gwirioni hefo’r cynnwys gorffenedig.”

Yn gyffredinol, mae’r record yma yn pwyso llai ar y sŵn canu gwlad ac yn symud yn fwy tuag at gymysgedd o ganeuon acwstig a hyd yn oed roc.

Yn ôl Alun, daw’r newid pwyslais yma yn rhannol o ganlyniad i geisio cyfleu’r stori neu’r neges o fewn y caneuon eu hunain a hefyd fel canlyniad i’r rhaglen ‘John ac Alun’ a glywir pob nos Sul ar Radio Cymru.

“Mae’r rhaglen yn helpu ni wrando ar stwff newydd ac ehangu ein gorwelion,” meddai Alun, “a hefyd i werthfawrogi bod angen datblygu a chynnig rhywbeth gwahanol.”

Blwyddyn nesaf bydd y rhaglen wedi bod ar yr awyr ers 20 mlynedd ac mae’n denu cynulleidfa o 20,000 neu fwy pob wythnos.

Mae’r hogiau yn awyddus iawn i roi sylw i artistiaid hen a newydd a thra bod y rhaglen yn gyswllt hefo’r gwrandawyr, mae hefyd yn fodd iddynt fagu cysylltiadau efo’r genhedlaeth newydd o artistiaid Cymreig.

“Peth braf,” meddai John “yw bod ‘hen stagers’ fel ni yn gallu cysylltu â rhannu llwyfan efo bandiau ifanc,”

Dyna’n union fydd yn digwydd yn Nharan Tudweiliog ar 13 Awst.

“Hon fydd y bedwaredd flwyddyn,” meddai Alun, ”ac mae’n bleser cael gweld llawer o’r bobl ifanc yn adnabod ein caneuon ac yn canu efo ni!”

Yna bydd John ac Alun yn ymddangos ar brynhawn dydd Sul, 28 Awst, yng Ngŵyl Gopr Amlwch, cyn iddynt fynd draw i wneud y rhaglen fyw ym Mangor.

“Dyma fydd y cyfle cyntaf i ni chwarae’r deunydd newydd yn fyw gyda band llawn,” meddai John, “ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn.”

Bydd lansiad swyddogol y recordiad yn Galeri, Caernarfon ar 9 Medi. Bydd John ac Alun yn rhannu llwyfan efo Gethin Vaughan a Glesni Fflur, ac mae Glesni hefyd yn cyfrannu llais cefndir i’r record newydd.

Mae’r rhestr o gyd-ysgrifenwyr eraill ar y record yn un adnabyddus iawn, gan gynnwys Eurig Wyn, Myrddin ap Dafydd, Idris Charles, Emyr Huws Jones, Geraint Davies a hyd yn oed Nantlais, trwy addasiad Alun o’r emyn ‘O’r fath gyfaill ydyw’r Iesu’.

“Tra bod y proses wedi bod yn araf a rhwystredig ar adegau, mae wedi bod yn brofiad gwych,” meddai Alun

 “Mae’r casgliad yma yn cyfleu ble mae John ac Alun wedi cyrraedd yn gerddorol erbyn heddiw – dim ond gobeithio y bydd yn plesio ac y caiff y gwrandawyr bleser o wrando ar y caneuon.

"Mae’n werth nodi hefyd ein bod yn rhyddhau’r ddegfed albwm yma gyda chymorth Emyr Rhys o gwmni Recordiau Aran, gan mai Emyr a fu’n gyfrifol am gynhyrchu ein recordiad (casét!!) cyntaf erioed ‘Yr Wylan Wen’, hynny yn ôl yn 1991.”

Rhannu |