Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Awst 2016

Sgwrs Iaith y Llywodraeth – Amser i weithredu nid ymgynghori medd Cymdeithas yr Iaith

Mae caredigion y Gymraeg wedi galw am 'weithredu nid geiriau gwag' wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei bod am ymgynghori eto am ei pholisïau iaith cwta tair blynedd ers cynnal ymarfer gwrando tebyg.  

Dair blynedd yn ôl, cynhaliwyd ymgynghoriad arall gan Lywodraeth Cymru, y 'Gynhadledd Fawr', yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad.  

I gyd-fynd â'r lansiad, mae'r mudiad wedi cyhoeddi rhestr o rai o'r argymhellion allweddol adroddiadau am yr iaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Llywodraeth ond heb ei weithredu.  

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  "Mae'n frawychus bod y Llywodraeth yn mynd i ymgynghori eto.

"Mae'r Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw ar ei gliniau – rydyn ni'n colli tri mil o siaradwyr bob blwyddyn ar y funud.

"Nawr yw'r amser i'r Llywodraeth weithredu cyn ei bod yn rhy hwyr; allwn ni ddim fforddio geiriau gwag.

"Wedi blynyddoedd o ymgynghori ac adroddiadau mae angen gweithredu, nid mwy o siarad. 'Dyn ni'n credu bod yr atebion i'r argyfwng wedi cael eu rhoi i'r llywodraeth, ac mae digon o dystiolaeth gyda nhw i weithredu yn gadarnhaol o blaid yr iaith a'n cymunedau yn syth.

"Dim ond tair blynedd yn ôl buodd y Llywodraeth yn ymgynghori yn dilyn canlyniadau'r Cyfrifiad, ac ers hynny mae nifer fawr o adroddiadau wedi eu comisiynu a'u cyhoeddi ond heb eu gweithredu.

"Os nad yw'r Llywodraeth wedi gweithredu nifer o argymhellion allweddol adroddiadau ei hunan, allwn ni ymddiried ynddyn nhw i weithredu wedi'r ymgynghoriad yma?

"Mae'n dogfen weledigaeth 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg', gyhoeddon ni dros flwyddyn yn ôl, yn seiliedig ar gyngor mudiadau ac arbenigwyr.

"Mae'n cynnig llawer o bolisïau manwl ambyti, nid yn unig sut i gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn, ond hefyd normaleiddio ei defnydd ac atal yr allfudiad o'n cymunedau a'n gwlad.

"Dywedon ni yn ein dogfen bod un o'r camau allweddol ymlaen yw sicrhau bod pob un disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg.

"Ar hyn o bryd, mae oddeutu wythdeg y cant o blant yn cael eu hamddifadu o addysg cyfrwng Cymraeg a'r holl gyfleoedd sy'n dod yn sgil hynny.

"Yma yn sir Fynwy, dim ond chwech y cant o blant sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

"Mae'r ystadegau hynny ar eu pennau eu hunain yn dangos bod angen newidiadau brys a radical er mwyn cyrraedd nod y Llywodraeth." 

Rhannu |