Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Awst 2016

Archesgob Cymru yn talu teyrnged i offeiriad a bardd adnabyddus

Mae Archesgob Cymru wedi talu teyrnged i'r offeiriad a'r bardd Cymraeg adnabyddus, y Canon Gwynn ap Gwilym, a fu farw ddydd Sul ar ôl dioddef o ganser.

Yn ogystal â bod yn glerigwr uchel ei barch, roedd y Canon ap Gwilym yn fardd Cymraeg, awdur, golygydd a chyfieithydd.

Yn wreiddiol o Fachynlleth, bu'n gwasanaethu'r Eglwys yng Nghymru yn esgobaethau Bangor a Llandaf cyn cymryd rolau Cynghorydd yr Esgobion ar Faterion yr Eglwys a Swyddog Iaith.

Cyfieithodd holl litwrgi yr Eglwys i'r Gymraeg dros y ddegawd ddiwethaf ac ysgrifennodd hefyd gyfieithiad uchel ei glod o'r salmau cân.

Disgrifiwyd ef gan yr Archesgob, Barry Morgan, fel "offeiriad ysgolhaig" a dywedodd fod yr Eglwys wedi colli "swyddog iaith a chyfieithydd gwych".

Dywedodd: "Roedd Gwynn ap Gwilym yn dilyn yr hen draddodiad Cymreig o fod yn un o'r offeiriaid llengar.

"Cafodd ei gadeirio'n Fardd yr Eisteddfod Genedlaethol ac roedd ar fin cyhoeddi llyfr ysgolheigaidd ar un o'i ragflaenwyr ym Mallwyd - John Davies, a helpodd i gyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg.

"Roedd hefyd wedi cyfieithu Salmau Cân Newydd o'r Hebraeg gwreiddiol.

"Llwyddodd yn ei nod o wneud y salmau hyn yn hygyrch ac yn ganadwy heb wyro o'u hystyr wreiddiol.

"Dim ond oherwydd ei ysgolheictod yn yr Hebraeg, ei allu fel bardd a'i wybodaeth ddofn o'r Gymraeg y gallodd wneud hyn.

"Gallodd cynulleidfaoedd, yn aml am y tro cyntaf, ganu a deall ystyr y salmau gan iddynt gael eu cyfieithu mewn modd y gellid eu gosod i donau Cymreig cyfarwydd.

"Roedd yn Swyddog Iaith a chyfieithydd gwych i'r Eglwys yng Nghymru.

"Cyfieithodd y rhan fwyaf o ddeunydd litwrgi yr Eglwys yng Nghymru, unwaith eto'n defnyddio ei ddoniau fel bardd ac ieithydd.

"Yn y blynyddoedd diwethaf, daeth â'r un trylwyrder ac egni i gysylltiadau eciwmenaidd pan gymerodd y dasg o fod y swyddog cyfrifol am berthynas yr Eglwys yng Nghymru gydag eglwysi ar draws y byd.

"Bydd ei sylw i fanylion, ei sylwadau trylwyr a'i allu i gyfathrebu, a hefyd ei bregethau treiddgar, a oedd bob amser yn defnyddio'r ysgrythurau i fwrw goleuni ar faterion cyfoes, yn ddoniau y gwelwn eu colli'n fawr.

"Aiff ein cydymdeimlad dwfn at ei weddw Mari a'i deulu."

Llun: Yr Archesgob, Barry Morgan

Rhannu |