Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Awst 2016

Gallai cynllun ‘Tipyn Bach’ ysgogi defnydd o’r Gymraeg

Â’R Eisteddfod wedi cychwyn, dywedodd Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros y Gymraeg Suzy Davies AC, oni bai bod plant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd lle na siaredir y Gymraeg mor aml yn clywed yr iaith yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd, fe fyddan nhw’n fwy cyndyn i ddefnyddio’r iaith eu hunain.

Mae’n credu y gallai cyflwyno ei menter ‘Tipyn Bach’ ysgogi defnydd o’r Gymraeg mewn ardaloedd lle nad yw’r iaith yn cael ei siarad yn naturiol.

Yng nghanol tref Castell-nedd mae AC Gorllewin De Cymru wedi datblygu menter sy’n annog perchnogion caffis a siopau lleol, eu gweithwyr a’u cwsmeriaid i ddefnyddio ychydig o Gymraeg wrth sgwrsio.

Mae oedolion, a allai fod wedi cael profiad gwael wrth ddysgu Cymraeg yn yr ysgol, yn magu hyder gan bwyll bach heb boeni sut maen nhw’n swnio.

Mae’r amgylchedd cyfeillgar yn golygu nad yw’r cyfan yn codi cymaint o fraw ar gwsmeriaid a staff - gan eu bod yn siopa, nid yn ‘dysgu Cymraeg’.

Mae plant ysgol hefyd yn clywed yr iaith y tu allan i’r amgylchedd addysgol, ac yn cael cyfle i gymryd rhan - gan gynnig y gair coll yn aml!

Meddai Suzy Davies AC, Ysgrifennydd yr Wrthblaid sy’n gyfrifol am y Gymraeg: "Mae angen i blant glywed pobl hŷn yn siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd cyffredin neu fe fyddan nhw’n tyfu i fyny yn cysylltu’r iaith â’r ysgol neu weithgareddau Cymraeg wedi’u trefnu.

"Mae mynd i siopa gyda rhiant neu warcheidwad yn sefyllfa gyffredin y gall y rhan fwyaf o blant uniaethu â hi.

“Rydym i gyd yn cydnabod mai bod yn ymwybodol o’ch hunan yw’r peth gwaethaf wrth ddysgu iaith.

"Dwi’n credu bod y stryd fawr, yn arbennig, yn lle perffaith i annog siopwyr a pherchnogion siopau i ymarfer eu Cymraeg heb ofni cael eu barnu.”

Yn yr Eisteddfod, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn annog grwpiau cymunedol lleol i fabwysiadu’r cynllun, ac i feithrin dysgu Cymraeg mewn lleoliadau bob dydd.

Mae’r cynllun wedi cael cefnogaeth a chydweithrediad y Fenter Iaith leol eisoes yng Nghastell-nedd a bydd y cam datblygu nesaf yn ceisio cynyddu nifer y gwirfoddolwyr er mwyn gallu parhau â’r cynllun.

Heriwyd Llywodraeth Cymru hefyd i amlinellu sut y gall gefnogi gweithredu cynlluniau o’r fath.

Mae’r Eisteddfod yn Sir Fynwy eleni, sir lle mae 16.4% o bobl yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg, sydd ymhlith yr isaf yng Nghymru, sy’n ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynllun o’r fath, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Ychwanegodd Ms Davies: “Er mwyn annog pobl i ddysgu Cymraeg, a sicrhau bod siaradwyr anhraddodiadol a dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i brofi eu sgiliau, mae angen i ni greu mwy o lefydd diogel i siarad Cymraeg yn wael.

“Drwy gynnwys darnau bach o Gymraeg mewn bywyd bob dydd, gallwn helpu i sicrhau twf yn yr iaith ar lawr gwlad a helpu llawer mwy o bobl i elwa ar fanteision bod yn amlieithog. Mae’n rhaid i hyn fod yn ganolog i strategaeth Gymraeg y genedl.

“Yn wir, mae ein cynllun Tipyn Bach yn annog masnachwyr a defnyddwyr i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, a bydd yn achredu’r busnesau hynny sy’n datblygu sgiliau Cymraeg staff a chwsmeriaid.

“Yn yr Eisteddfod eleni bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn annog grwpiau cymunedol lleol i ystyried gweithredu cynlluniau tebyg yn lleol, i roi bywyd newydd i ddysgu’r iaith ar lawr gwlad.”

Ychwanegodd Aelod Cynulliad Mynwy, Nick Ramsay AC:  “Mae Sir Fynwy yn falch iawn o gynnal yr Eisteddfod eleni.

“Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir wedi parhau tua’r un fath am gyfnod o ddeng mlynedd, a byddai cynlluniau sy’n rhoi cyfle i bobl ymarfer Cymraeg sylfaenol yn gam sylweddol ymlaen.

“Bydd cymaint o lygaid ar Sir Fynwy eleni gyda’r Eisteddfod yn arddangos cymaint o etifeddiaeth unigryw y genedl.

"Mae’n rhaid i’r Cynlluniad hwn a Llywodraeth Cymru wneud mwy i annog ymgyrchoedd cymunedol ar lawr gwlad sy’n gallu cynyddu defnydd o’r Gymraeg.”

Rhannu |