Mwy o Newyddion
Marw Gwynn ap Gwilym, clerigwr, bardd ac awdur
Er ei gyfraniad mawr i’r Eglwys yng Nghymru cofir y Parchedig Ganon Gwynn ap Gwilym fel bardd ac awdur a Phrifardd Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun yn 1986. Bu farw dros y Sul diwethaf yn 66 oed wedi dioddef o ganser.
Fe’i magwyd ym Machynlleth yn fab i’r gweinidog lleol, Y Parch William Williams a Myfi Williams.
Wedi gadael yr ysgol astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, cyn mynd i Brifysgol Iwerddon yn Galway a Wycliffe Hall, Rhydychen. Derbyniodd raddau MA Cymru ac MA Rhydychen.
Ar un cyfnod roedd yn ddarlithydd yn Adran Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol Prifysgol Iwerddon, Corc.
Dewisodd fynd i’r Eglwys, meddai, wedi darllen ‘Methodistiaeth Galfinaidd Cymru’ gan John Roberts, Caerdydd.
Bu’n Rheithor Plwyf Bro Ddyfi Uchaf (eglwysi Mallwyd, Cemais, Llanymawddwy, Darowen a Llanbryn–mair) a byw ym Mallwyd.
Bu’n ddarlithydd mewn Hebraeg ac Astudiaethau’r Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth.
Symudodd i ardal Pen-y-bont ar Ogwr pan gafodd ei wneud yn Swyddog Iaith yr Eglwys yng Nghymru a chynghorwr i’r Archesgob ar faterion eglwysig.
Tra’n gwneud hyn cafodd dri mis o’i waith gan yr Archesgob Barry Morgan i lunio cyfrol ‘Salmau Cân Newydd’ a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2008.
Cafodd ganmoliaeth am ei fenter yn rhoi’r salmau ar fydr a gwneud iddynt ganu yn esmwyth a rhwydd.
Flynyddoedd cyn hyn bu’n gynhyrchiol iawn.
Yn 1983 enillodd wobr Cyngor Celfyddydau Cymru am ei gyfrol o farddoniaeth, Gwales, ac yn 1986 ef oedd Bardd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergwaun am ei awdl, ’Y Cwmwl’. Marwolaeth creulon ei dad i’r clefyd motor neuron oedd testun ei waith buddugol.
Rhai o’i gyhoeddiadau eraill oedd Y Winllan Werdd (Gwasg Christopher Davies, 1977); ei nofel Da o Ddwy Ynys (Gwasg Christopher Davies, 1978); Storïau Byrion Pàdraig Pearse (Cyfieithiad) (Gwasg y Sir, 1979); Llefarodd wrthym ni mewn Mab, Cyfres o Ddydd i Ddydd (Cyngor Eglwysi Cymru); Yr Ymyl Aur (Gwasg Gwynedd, 1997).
Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill mae Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif (a gyd-olygodd gydag Alan Llwyd, i Gyhoeddiadau Barddas; Stori Saunders Lewis; Meistri a’u Crefft, Casgliad o Ysgrifau Beirniadol Saunders Lewis; Y Testament Newydd: Llawlyfr Athrawon a Bro’r Eisteddfod, Maldwyn a’i Chyffiniau (wedi ei chyd-olygu gyda Richard H. Lewis.
Am ddwy flynedd ef oedd golygydd Barn a bu’n dal i gyfrannu i’r cylchgrawn. Disgrifiwyd ef fel ‘cyfrannwr ac adolygydd mirain, ffraeth, deifiol, dysgedig a llais gwir annibynnol’.
Ddwy flynedd yn ôl gwnaed ef yn Ganon gan yr Archesgob am ei waith eglwysig yn esgobaeth Bangor a Llandâf.
Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2003 a bu’n teithio am fisoedd i’r pwyllgorau o Ben-y-bont ar Ogwr.
Gedy wraig, Mari, a’i frawd, y Parch Ifor ap Gwilym a’i deulu. Bu farw ei chwaer Lona y llynedd.