Mwy o Newyddion
Eisiau eich barn ynghylch Morlyn Llanwol Bae Abertawe
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn barn pobl ynghylch wybodaeth bellach gyflwynwyd gan y cwmni tu ôl i Forlyn Llanwol Bae Abertawe.
Amcana prosiect Morlyn Llanwol (Bae Abertawe) Plc adeiladu wal fôr 9.5 km o hyd ym Mae Abertawe, rhwng afonydd Tawe a Nedd.
Bydd yno orsaf cynhyrchu trydan, yn ogystal â chanolfan ymwelwyr a chyfleusterau addysgiadol a chwaraeon.
Ond cyn dechrau ar y gwaith, mae angen trwydded oddi wrth CNC, ar gyfer y gwaith morol.
Mae’r wybodaeth bellach a gyflwynwyd yn rhoi manylion am sut gallai ‘r cynllun effeithio ar bysgod a sut gallai’r effeithiau hynny gael eu monitro a’u gwrthbwyso.
Meddai Richard Siddons, Pennaeth Gwasanaethau Technegol, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Datblygiad Morlyn Llanwol Bae Abertawe yw’r cyntaf yn y byd, ac os byddwn yn penderfynu rhoi trwydded forol iddynt fwrw ymlaen gyda’r gwaith, hwn fyddai'r cyntaf o’i fath a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Yn dilyn casgliadau trafodaethau cyn-gyflwyno rhwng yr ymgeisydd a’n cynghorwyr, rydym wedi derbyn gwybodaeth bellach ynghylch yr effaith bosibl ar bysgod ac wedi penderfynu hysbysebu’r wybodaeth.
“Dymunwn bwyso a mesur y cais hwn yn ddeallus ac mae’r ymgynghoriad hwn o gymorth inni ystyried barnau na fyddem, efallai, yn ymwybodol ohonynt fel arall.
“Mae’n gais arbennig o gymhleth, ac rydym yn parhau i asesu’r wybodaeth arbenigol a gawsom.
"Unwaith y byddwn yn fodlon ein bod wedi asesu’r wybodaeth berthnasol yn llawn, byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad.
“Mae’r amgylchedd yn werth o leiaf £8.8 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn a chredwn fod ganddo’r potensial i gynhyrchu hyd yn oed mwy os byddwn yn ei ddefnyddio’n gynaliadwy a chaniatáu’r datblygiadau cywir yn y mannau cywir.”
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach yng Nghanolfan Dinesig Abertawe, Siop Un Stop Castell Nedd yn Y Ganolfan Ddinesig Castell Nedd, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Llyfrgell Ystumllwynarth, TLSB ar Heol y Brenin, Abertawe.
Hefyd gellir lawr lwytho dogfennau gwybodaeth bellach o https://naturalresources.wales/about-us/consultations/current-consultations-marine-licences/tidal-lagoon-swansea-bay-plc-further-information-submission/?lang=cy
Gellir cael copïau cryno ddisg gan y Tîm Trwyddedu Morol, Y Gwasanaeth Drwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP neu trwy yrru e-bost at: marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk
Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ynghylch y cais ysgrifennu at y Tîm Trwyddedu Morol yn y cyfeiriad uchod neu yrru neges e-bost at: marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk
Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 16 Medi.