Mwy o Newyddion
Llywodraeth Lafur 'ar y droed ôl yn barod' gydag addewid miliwn o siaradwyr Cymraeg
Mae Siân Gwenllian AC Plaid Cymru dros Arfon wedi rhybuddio fod y Llywodraeth Lafur ar y droed ôl yn barod o ran ei hymrwymiad i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Mae disgwyl i'r Gweinidog Alun Davies lansio 'Sgwrs genedlaethol am yr iaith' ar faes yr Eisteddfod heddiw, ond mae'n debyg nad yw'r gwaith o amlinellu'r camau sydd eu hangen i wireddu'r nod wedi cychwyn.
Nododd Siân Gwenllian AC fod y Llywodraeth Lafur wedi ceisio cynnal 'Sgwrs Genedlaethol' yn flaenorol, ynghyd â 'Chynhadledd Fawr', a bod angen llawer mwy na "st?nt arwynebol" os am fynd i'r afael a'r cwymp yn y nifer o siaradwyr a gafodd ei adlewyrchu yn y Cyfrifiad diwethaf.
Meddai: "Yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai, fe ymrwymodd y Blaid Lafur i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
"Mae Plaid Cymru yn croesawu hyn yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen at gydweithio efo'r Llywodraeth Lafur i wireddu'r nod uchelgeisiol a chlodwiw.
"Mae'n hi'n siomedig iawn felly deall nad yw'r gwaith o greu cynllun gweithredu yn mapio allan y camau sydd angen eu cymryd i wireddu'r nod wedi cychwyn ag bod oedi pellach i ddigwydd er mwyn cael 'sgwrs' arall ynglŷn â'r Gymraeg.
"Gweithredu yn hytrach na sgwrsio sydd ei angen gan Lywodraeth Lafur Cymru os yw'r Gymraeg am barhau a chryfhau.
"Cafwyd 'Sgwrs Genedlaethol' a 'Chynhadledd Fawr' gan Carwyn Jones, y Prif Weinidog yn 2013. Does dim angen 'st?nt' arwynebol ar ffurf sgwrs arall a does dim amser i'w wastraffu.
"Dangosodd cyfrifiad 2011 mai 562,000 oedd yn siarad Cymraeg - cwymp o 2%. Ni chyflawnwyd targed blaenorol y Llywodraeth sef anelu am 5% o gynnydd. Mae angen cynllun gweithredu clir ac amserlen fanwl ar sail blaenoriaethau cadarn.
"Mae'r cyhoeddiad fod sgwrs arall i'w chynnal yn hollol annerbyniol ac yn dangos diffyg gweledigaeth dybryd a diffyg ewyllys gwirioneddol i symud ymlaen i achub yr iaith Gymraeg."