Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Gorffennaf 2016

Angen bod yn ofalus wrth nofio yn Llyn Tegid

A HITHAU’N Wythnos y Parciau Cenedlaethol, a’r pwyslais ar antur, mae swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn annog nofwyr yn Llyn Tegid i ddefnyddio a chadw o fewn terfynau penodol newydd wrth nofio yn y llyn.

Bydd rhai cannoedd o bobl yn nofio yn Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru, bob blwyddyn. Yn ystod misoedd yr haf ac yn ystod gwyliau ysgol, bydd Llyn Tegid brysuraf wrth i filoedd ddod yma i hamddena ac i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr poblogaidd megis hwylio, canwio a hwylfyrddio.

O’r herwydd, ac er mwyn diogelu’r nofwyr yn bennaf, mae swyddogion y Parc wedi mynd ati i greu ardal benodol a thawel i nofwyr ei ddefnyddio.

Y bwriad gwreiddiol oedd neilltuo lôn benodol ar gyfer nofwyr, ond oherwydd natur y llyn, gyda’r dŵr yn codi a gostwng, mae wedi bod yn anodd neilltuo lôn benodol. O’r herwydd aethpwyd ati i neilltuo ardal benodol wedi ei farcio, tua 400m wrth 50m a rhyw 2 i 3 metr o ddyfnder, yn rhan ogleddol y llyn wrth ymyl y blaendraeth a’r maes parcio, i nofwyr.

“Mae cychod hwylio, canŵs a hwylfyrddwyr yn defnyddio’r llyn, felly mae diogelwch y nofwyr yn ystyriaeth bwysig i ni,” meddai Arwel Morris, Warden Llyn Tegid.

“Rydan ni felly’n annog nofwyr i ddod i’r rhan benodol hon ac i wisgo cap nofio llachar ac os yn bosib, i gario dyfais arnofio er mwyn i bobl eraill eu gweld. I’r rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr, rydan ni’n eu hannog i sicrhau eu bod yn gwisgo siacedi bywyd neu gymhorthion arnofio ar bob adeg. Yna, os oes rhywun yn mynd i drafferth ar y Llyn, mae angen ffonio 999.”

Ffurfiwyd Llyn Tegid ar ddiwedd Oes yr Iâ - tua 14,000 o flynyddoedd yn ôl, ac erbyn heddiw mae’n safle ecolegol bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac wedi ei ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Safle Ramsar (ardaloedd gwlyptir), ac yn Ymgeisydd am Ardal Gadwraeth Arbennig.

 

Rhannu |