Mwy o Newyddion
Fferm Oes Haearn Bryn Eryr nawr ar agor yn Sain Ffagan
ERS dydd Mercher yr wythnos hon (Gorffennaf 27) mae Bryn Eryr, y fferm Oes Haearn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, nawr ar agor yn llawn i’r cyhoedd. Mae’r adeilad, sy’n seiliedig ar safle archaeolegol o gyfnod y goresgyniad Rhufeinig, yn ail-gread o fferm fechan ger Llansadwrn yn nwyrain Ynys Môn.
Mae’r adeilad yn cynnwys dau dŷ crwn gyda waliau clai sy’n chwe throedfedd o drwch, a thoeau gwellt siâp côn.
Cafodd ei adeiladu gyda chymorth cannoedd o wirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol o Drelái a Chaerau. Gyda chymorth tîm adeiladu’r Amgueddfa, buont yn codi’r waliau clai, helpu i dde-hongli hanes y tai ac ailddarganfod bywydau’r preswylwyr gwreiddiol.
Mae grwpiau ysgol wedi bod yn ymweld â Bryn Eryr ers blw-yddyn ond erbyn hyn gall y cy-hoedd ymweld â’r safle yn dilyn cwblhau’r gwaith ar y prif lwybr drwy’r coed.
Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yng nghanol y project ailddatblygu mwyaf yn ei hanes. Mae hyn yn bosibl diolch i arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru a noddwyr eraill. Yn 2012, derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed i gael ei roi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, er mwyn helpu i adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 a mwy o flynyddoedd.
“Dylai ein gwirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol Trelái a Chaerau fod yn falch iawn o Bryn Eryr. Iddyn nhw a’n tîm adeiladu ni y mae’r diolch am allu agor yr atyniad newydd i’r cyhoedd yr haf hwn,” meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru.“Mae ail-greu’r adeilad hynod hwn o Ynys Môn, gan ddefnyddio tystiolaeth ar-chaeolegol, yn gam arwyddocaol yn y broses o ailddatblygu Sain Ffagan.
“Dros y pum mlynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn mynegi gwerth y project ailddatblygu i bobl Cymru a thu hwnt. Gyda Bryn Eryr nawr ar agor, mae gan ein hymwelwyr le i glywed hen straeon, dysgu sgiliau traddodiadol a rhannu profiadau gyda ffrindiau a theulu.
”Dywedodd Paul, gwirfoddolwr yn Uned Adeiladau Hanesyddol Sain Ffagan, fu’n gweithio ar Bryn Eryr: “Doeddwn i ddim yn teimlo’n dda iawn ar y dechrau ond buan y daeth gwen yn ôl i fy wyneb diolch i’r staff gwych wnaeth wneud i mi deimlo’n normal eto.
Roedd fy hyder yn tyfu ac yn tyfu. Er mai dim ond gwirfoddolwr wyf i, rwy’n teimlo fel un ohonyn nhw.
Mae wedi bod yn wych cael dysgu pob math o bethau