Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Gorffennaf 2016

Meddiannu swyddfa Cymwysterau Cymru

DDYDD LLUN, fe aeth ymgyrchwyr iaith i mewn a meddainnu swyddfwydd Cymwysterau Cymru oherwydd penderfyniad y corff i barhau i ddysgu ‘Cymraeg Ail iaith’ i blant yn lle creu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl.

Dair blynedd yn ôl, derbyniodd y Llywodraeth adroddiad gan yr Athro Sioned Davies oedd yn galw am newidiadau radical brys, gan gynnwys cael gwared â’r cysyniad o ddysgu’r Gymraeg fel ‘ail iaith’ ac yn lle hynny symud at un continwwm o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynyddol ym mhob ysgol.

Y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod “o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol.”

Fodd bynnag, mewn llythyr a gyhoeddwyd ar wefan cymwysterau Cymru wythnos diwethaf, dywed Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, wrth yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams bod y corff am gadw’r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith.

Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r penderfyniad yma yn mynd i amddifadu cenhedlaeth arall o blant o’r Gymraeg. Mae’n anghredadwy eu bod nhw’n gallu anwybyddu teimladau cryf cannoedd o bobl wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad.

“Mae’n hollol annerbyniol ac yn dangos diffyg ewyllys a diffyg gweledigaeth gweision sifil a swyddogion i wneud y newidiadau radical sydd eu hangen. Unwaith eto, maen nhw’n gadael plant i lawr drwy gadw system sydd ei-soes wedi ei brofi yn fethiant.

“Nid oes modd dileu Cymraeg Ail Iaith ar yr un llaw a diwygio’r cymhwyster ‘Cymraeg Ail Iaith’ ar y llaw arall. Naill ai eich bod yn ei ddileu, neu dydych chi ddim – mae mor syml â hynny. Maen nhw’n gwybod hynny’n iawn, ond yn lle gweithredu, maen nhw’n arafu yn ddiangen unwaith eto.

“Pryderwn yn fawr y gwelwn, yn y pendraw, barhau â chysyniad Cymraeg ail iaith. Mae hynny’n ddedfryd oes i 80% o’n pobl ifanc a fydd heb y Gymraeg am eu holl fywyd.

Byddwn ni’n mynnu ymatebion gan Kirsty Williams yn ein cyfarfod gyda hi wythnos nesaf a’i bod hi’n dangos arweiniad nawr drwy wrthdroi’r penderfyniad er lles y genhedlaeth nesaf.”

Roedd disgwyl i swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfarfod yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams dddoe (dydd Iau). Mae’r mudiad hefyd yn cynnal rali ddydd Gwener nesaf, Awst 5, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni.

 

Rhannu |