Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mehefin 2011

Prosiect blaengar yn ennill gwobr UE

Mae prosiect blaengar sy’n helpu pobl ifanc dalentog o Gymru i gychwyn busnesau yn sector gwyddorau’r môr wedi ennill gwobr fawr gan yr UE heddiw (23.06.11).

Mae prosiect gwerth £2.5 miliwn o’r enw “Twf yng Ngwyddorau Amgylchedd y Môr” (GEMS), wedi ennill gwobr RegioStars 2011 yr UE sy’n anrhydeddu rhai o brosiectau mwyaf blaengar Ewrop. Dyma’r trydydd tro i Gymru ennill gwobr o’r fath – yr unig ranbarth i gael y fath lwyddiant.

Mae’r prosiect yn cael ei redeg gan Bridge Marine Science Group o Borthaethwy i baratoi graddedigion sy’n gweithio ym maes gwyddorau’r môr ar gyfer y byd masnachol ac i helpu busnesau bach a chanolig yn y sector i dyfu. Hyd yma, mae GEMS wedi helpu rhyw 100 o raddedigion i fentro i fyd busnes.

Mae’r prosiect yn bod diolch i £1 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae GEMS yn helpu busnesau i weithio gyda’i gilydd i wella’u cyfleoedd i fasnachu ledled y byd.

Yn y seremoni wobrwyo ym Mrwsel, meddai Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies AC: “Mae hyn yn dipyn o gamp i Gymru ac mae’n dangos y ffordd arloesol y mae arian Ewrop yn cael ei fuddsoddi i helpu busnesau yn y wlad.

“Rwy’n llongyfarch GEMS am y prosiect arobryn hwn. Mae’n helpu busnesau bach a chanolig hen a newydd ym maes gwyddorau’r môr a dŵr ac yn eu hannog i gydweithio, mae’n manteisio ar gronfa o arbenigeddau er mwyn cystadlu’n rhyngwladol am gontractau ac mae’n creu clwstwr llwyddiannus a deinamig sy’n seiliedig ar wybodaeth.”

Enillodd GEMS y wobr yng nghategori “cystadlu economaidd” RegioStars 2011 gan greu argraff ar y beirniaid am rwydweithio a chreu mentrau clwstwr i hybu twf y rhanbarth ac am helpu busnesau bach a chanolig i gipio marchnadoedd yng ngweddill y byd. Cyrhaeddodd prosiect arall o Gymru y ffeinal hefyd, sef prosiect o’r enw Rhannu Profiadau Ewrop o dan arweiniad Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd gyda chefnogaeth rhaglen Interreg IVC.

Cyflwynwyd y wobr gan Gomisiynydd Polisi Rhanbarthol yr UE Johannes Hahn, a ddywedodd y dylai Cymru fod yn falch o’i llwyddiant.

“Gall GEMS fod yn ysbrydoliaeth i ranbarthau eraill Ewrop. Enillodd am fod gan y prosiect ddimensiwn lleol cryf ac am ei fod hefyd yn estyn allan i’r byd y tu hwnt i Gymru. Mae angen rhanbarthau fel Cymru arnom yn y cyfnod economaidd anodd hwn fel magwrfa doniau arloesi a chystadlu.”

Wrth dderbyn y wobr ym Mrwsel, meddai Paul Freeman, Rheolwr Gyfarwyddwr Bridge Marine Science Group: “Mae ennill gwobr fawr y RegioStar yn anrhydedd aruthrol i Bridge Marine Science Group. Mae’n dyst i lwyddiant y tîm gyda’r prosiect GEMS sydd wedi helpu cannoedd o fusnesau ac unigolion. Mae Arian Ewrop wedi cael ei ddefnyddio’n effeithiol i wireddu manteision y prosiect er lles cymunedau glân môr gwledig ledled Cymru.

“Mae’r cyngor rydym yn ei roi yn arbenigol i bob unigolyn a’n hamcan yw gwneud y sector yn fwy cynaliadwy trwy helpu’r busnesau sy’n bod ynghyd â’r gronfa o fyfyrwyr dawnus fydd dyfodol ein sector. Yn ogystal ag adlewyrchu’r gwaith sydd wedi’i wneud gan ein tîm fel rhan o Brosiect GEMS, mae’r wobr yn dyst i barodrwydd y clwstwr morol i addasu i amodau cyfnewidiol y farchnad. Byddwn y gwaith da sy’n cael ei wneud gan y clwstwr yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a thu hwnt yn parhau.”

O dan raglenni presennol Cronfeydd Strwythurol 2007-2013, mae tros £770 miliwn wedi’i fuddsoddi gan yr UE mewn prosiectau i helpu busnesau fel Bridge Marine Science Group, trwy gynlluniau sy’n annog Ymchwil a Datblygu, Technoleg Gwybodaeth ac arloesi. Mae’r sector preifat hefyd yn elwa o’r rhaglenni trwy weithgareddau caffael a hyd yma, mae’r sector wedi ennill gwerth tros £295 miliwn o gontractau i helpu i gynnal prosiectau’r UE.

Yn ystod ei ymweliad â Brwsel, bydd Mr Davies yn cwrdd â’r Comisiynydd Hahn i drafod cyllid yr UE yn y dyfodol.

Rhannu |